Beni Mellal
Dinas ym Moroco yw Beni Mellal (Arabeg: بني ملال), sy'n brifddinas rhanbarth Tadla-Azilal. Poblogaeth: 163,286 (cyfrifiad 2004). Fe'i lleolir yng nghanolbarth 620 metr i fyny wrth droed Jebel Tassemit (2247m), wrth ymyl gwastadedd Beni Amir.
![]() | |
Math | urban commune of Morocco, pentref ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 209,594 ![]() |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Talaith Béni-Mellal ![]() |
Gwlad | ![]() |
Uwch y môr | 620 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 32.3394°N 6.3608°W ![]() |
Cod post | 23000 ![]() |
![]() | |
Mae'r ddinas yn gorwedd cryn bellter o'r môr ac yn cael ei gysgodi o gyfeiriad y dwyrain gan fynyddoedd yr Atlas Canol; o ganlyniad mae ganddi hinsawdd cyfandirol gyda hafau poeth iawn a gaeafau eithaf oer.
Codwyd muriau'r ddinas gan y Swltan Moulay Ismail, yn 1688, ynghyd â'r Kasbah (caer) Bel-Kush, ond mae'r rhan fwyaf o'r ddinas yn gymharol fodern. Mae'n gwasanaethu fel prif ganolfan economaidd y rhanbarth: mae cynnyrch amaethyddol lleol fel orennau a ffigys yn cyrraedd y farchnad trwy Beni Mellal.
Mae gan y ddinas gysylltiadau cludiant da gyda dinas Casablanca ar yr arfordir i'r gorllewin ac mae'n gorwedd ar yr hen lwybr masnach - priffordd genedlaethol erbyn heddiw - rhwng Fez a Marrakech. Ar hyn o bryd mae'r gorfforaeth reilffordd genedlaethol, ONCF, yn adeiladau lein newydd o Casablanca i gyrraedd Beni Mellal.
Dolenni allanol
golygu- (Arabeg) (Ffrangeg) Gwefan swyddogol Beni Mellal
- (Arabeg) (Ffrangeg) Blodau ac anifeilaid