Bert Thomas
Cartwnydd gwleidyddol o Gymru oedd Herbert Samuel "Bert" Thomas MBE (13 Hydref 1883 – 6 Medi 1966). Bu'n cyfrannu at gylchgrawn Punch a chreu posteri propaganda Prydeinig adnabyddus yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf a'r Ail Ryfel Byd.
Bert Thomas | |
---|---|
Ganwyd | Herbert Samuel Thomas 13 Hydref 1883 Casnewydd |
Bu farw | 6 Medi 1966 Bayswater, Llundain |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cartwnydd, darlunydd |
Blodeuodd | 1909 |
Cyflogwr | |
Gwobr/au | MBE |
Gyrfa
golyguYmunodd Thomas â Punch ym 1905 a chyfrannodd tan 1935. Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf roedd yn aelod o'r Artists Rifles.
Dechreuodd cartwnau gwleidyddol Thomas gael eu cynnwys mewn arddangosfeydd oriel fel caricatures artistig cyn gynhared â 1913, mewn arddangosfa ar y Strand gan y Society of Humorous Art ac yn 1916, ei gartŵn yn erbyn y Clyde strikers[1] gyda'r Kaiser yn dweud "pass friend" i streiciwr yn ymddangos mewn arddangosfa o gartwnau rhyfel yn y Graves Galleries ar Pall Mall.[2]
Yn 1918 daeth yn adnabyddus yn genedlaethol am ei gartwn "Arf a mo, Kaiser", a dynnwyd mewn deg munud ar gyfer ymgyrch Smokes for Tommy Dispatch Weekly. Cododd y cartŵn bron i chwarter miliwn o bunnoedd tuag at "comforts" (tybaco a sigaréts) ar gyfer milwyr rheng flaen a chafodd y ddelwedd ei ail-dynnu a'i ddefnyddio yn ystod yr Ail Ryfel Byd gyda'r pennawd "Arf a mo, 'itler".[3] Gwnaeth yr Almaenwyr wahardd y cartŵn "Arf a mo, 'itler" ac i sicrhau nad oedd carcharorion Prydeinig yn colli eu parseli, creodd amrywiad gyda'r pennawd "Are we downhearted?"
Derbyniodd yr MBE yn Anrhydeddau Pen-blwydd 1918.
Bywyd personol
golyguBu farw Thomas yn ei gartref yn 33 Inverness Terrace, Bayswater, Llundain, ar 6 Medi 1966, ar ol dioddef strôc. Fe'i claddwyd ym Mynwent Kensal Green, Llundain.
Y cerflunydd Ivor Thomas (1873-1913) oedd ei frawd.
Roedd ei fab Peter hefyd yn creu cartwnau ar gyfer Punch.
Llyfryddiaeth
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ "Better Labour Outlook. The Clyde Strikers Returning, Causes Of Discontent". The Times]. 4 March 1915. t. 10.[dolen farw]
- ↑ "Humour In Art. The Value Of The Grotesque". The Times]. 4 December 1913. t. 11. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-01-31. Cyrchwyd 2018-07-25.
- ↑ J. Bourne (2001), Who's Who in World War One, Taylor & Francis, p. 283, ISBN 9780415141802