Bertie George Charles

ysgolhaig ac archifydd

Ysgolhaig ac archifydd oedd Bertie George Charles (13 Chwefror 190819 Awst 2000). Ganwyd ym Mhen-parc, Trefin, sir Benfro. Fe'i magwyd ar Fferm Tresinwen ac aeth i ysgol elfennol Henner ac ysgol Ramadeg Abergwaun i dderbyn ei addysg. Un o'i athrawon yno oedd D. J. Williams a ddysgai Saesneg, a dilynodd yr un llwybr addysgol trwy fynychu Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth yn Hydref 1926 i astudio Saesneg. Enillodd radd anrhydedd yn y dosbarth cyntaf yn Mehefin 1929, dyfarnwyd iddo ysgoloriaeth ymchwil yn 1930, a dyfarnwyd radd MA Prifysgol Cymru yn 1932 gyda rhagoriaeth am draethawd ar 'Norse Relations with Wales'. Cyhoeddwyd ei waith gan Wasg Prifysgol Cymru yn 1934 a chafodd dderbyniad arbennig.

Bertie George Charles
Ganwyd13 Chwefror 1908, 1908 Edit this on Wikidata
Trefin Edit this on Wikidata
Bu farw19 Awst 2000 Edit this on Wikidata
Aberystwyth Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaetharchifydd Edit this on Wikidata

Wedi cael Cymrodoriaeth Prifysgol Cymru, aeth i Brifysgol Llundain i wneud gwaith ymchwil pellach ar enwau lleoedd yn sir Benfro. Dyfarnwyd gradd Ph.D. iddo yn 1935 ac fe gyhoeddwyd fersiwn estynedig o'i waith gyda'r teitl 'Non-Celtic Place-names in Wales' gan Brifysgol Llundain yn 1938, ac eto bu'r adolygiadau'n rhagorol. Roedd eisoes wedi cychwyn ar swydd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn 1936, sef yn yr Adran Llawysgrifau a'r Cofysgrifau, ond oherwydd yr Ail Rhyfel Byd, aeth i wasanaethu gyda'r lluoedd arfog cyn medru dychwelyd i ail afael yn y gwaith. Ailraddiwyd y swydd i 'Geidwad Cynorthwyol' yn 1945, ac yno y bu hyd nes iddo ymddeol yn y flwyddyn 1973.

Yn ystod ei yrfa, ymddiddorai Dr. Bertie Charles mewn dogfennau tir o'r oesoedd canol a'r cyfnod modern cynnar yn bennaf, a lluniodd gatalogau a nifer fawr o archifau. Fel palaeograffydd o'r radd flaenaf, cyflawnodd brosiectau ymchwil uchelgeisiol gan gyhoeddi erthyglau niferus mewn cylchgronau academaidd. Yn 1967 daeth Calendr of the Records of the Borough of Haverfordwest, 1539-1660 o'r wasg, a chyflwynwyd y cofnodion gwreiddiol ar adnau i'r Llyfrgell yn 1948, sef y rhai a restrwyd gan Dr. Charles. Yn ddiweddarach, treuliodd flynyddoedd lawer yn ymchwilio ar gyfer y gyfrol feistrolgar George Owen of Henllys: a Welsh Elizabethan, ac fe'i cyhoeddwyd yn 1973, tra'n ystod cyfnod ei ymddeoliad, cyhoeddwyd ei waith byrach, The English Dialect of South Pembrokeshire: Introduction and Word-List gan Gymdeithas Hanes Sir Benfro yn 1982. Ei waith mwyaf sylweddol fodd bynnag oedd The Place-names of Pembrokeshire yn 1992 mewn dwy gyfrol pan oedd yn 85 mlwydd oed. Roedd hwn yn llafur cariad aruthrol.

Bywyd personol golygu

Heblaw am y cymaint gweithgarwch ymchwiliol, roedd ei ddiddordebau amgen yn cynnwys golf, yr hyn a rannai gyda'i wraig May. Bu dwy ferch iddynt, a daeth Tresinwen, Teras Cae'r Gog, Aberystwyth yn garfref parhaol i'r teulu. Bu farw Mrs. Charles yn 1998, a Dr. Charles yntau yn y flwyddyn 2000.

Ffynonellau golygu

  • Yr Angor, (Hydref, 2000)
  • Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru (2002)