Big Smoke

cymeriad GTA

Mae Melvin Harris, sy'n cael ei adnabod wrth y llysenw Big Smoke, yn gymeriad yn y gêm fideo Grand Theft Auto: San Andreas. Mae'n cael ei leisio gan yr actor Clifton Powell.[1]

Big Smoke
Enghraifft o'r canlynolbod dynol ffuglennol, cymeriad gêm fideo Edit this on Wikidata
Aelod o'r  canlynolGrove Street Families Edit this on Wikidata
Big Smoke

Rhagarweiniad golygu

Ganwyd Big Smoke yn Los Santos. Roedd yn un o ffrindiau plentyndod CJ, prif arwr y gêm, a Sweet ei frawd. Esgynnodd trwy rengoedd y gang Grove Street Families (GSF), oedd yn cael ei arwain gan Sweet. Wedi i CJ symud i Liberty City daeth Smoke yn agosach at Sweet gan gael ei ddyrchafu'n dirprwy'r gang. Ceisiodd Big Smoke i argyhoeddi Sweet, i ganiatáu i GFS gwerthu cyffuriau caled,[2], ond gwrthododd Sweet iddo wneud hynny gan nad oedd am i'w gang a'i gymuned ddioddef y canlyniadau.

Smoke ar ddechrau'r gêm golygu

Wedi methu perswadio Sweet i ganiatáu iddo gael gwerth cyffuriau caled mae'n perswadio aelod amlwg arall o'r gang, Ryder, i gyd weithio ag ef i gyflenwi cyffuriau yn groes i ddymuniad Sweet. Mae Big Smoke a Ryder yng nghyd gynllwynio a gang arall, y Ballas, i ladd Sweet. Mae'r cynllyn yn mynd o chwith ac mae mam Sweet, Beverly Johnson, yn cael ei lladd. Mae marwolaeth Mrs Johnson yn arwain at ddychweliad ei mab CJ i Los Santos. Mae Smoke yn croesawu ei hen gyfaill yn ôl yn wresog.

Mae'r gêm yn mynd rhagddi am beth amser cyn bod brad Smoke i'w gang trwy gydweithio a gang y Ballas a'r uned Heddlu llwgr C.R.A.S.H (Community Resources Against Hoodlums). Yn dod i'r amlwg. Ond ar sawl achlysur cyn iddo gael ei amlygu fel bradwr, mae llawer o awgrymiadau cynnil yn codi amheuaeth.

Mewn nifer o dasgau cynnar y gêm mae gang y Ballas yn ymosod ar gang GSF, wrth wneud maent yn anelu eu harfau tuag at Sweet, CJ ac aelodau eraill y gang ond i'w gweld yn anwybyddu Smoke a Ryder. Mewn tasg lle mae Smoke yn cael pryd o fwyd gyda CJ a Sweet mae ymosodiad yn dod ond mae Smoke yn gwrthod "gadael iddynt amharu ar ei bryd" trwy wrthymosod.

Mae Smoke yn rhoi nifer o dasgau i CJ. Y cyntaf yw cael o i gasglu hen ffrind, OG Loc o'r swyddfa’r heddlu wedi iddo gael parôl wedi cyfod yn y carchar. Wedyn bydd yn disgwyl i CJ ei helpu i ymosod ar gangiau eraill (ac eithrio'r Ballas) er mwyn amddiffyn gang GSF, yn ôl ei chwedl.[3] Weithiau bydd aelodau C.R.A.S.H. yn ymddangos o amgylch tŷ Big Smoke ar ddechrau neu ddiwedd tasg, ond bydd Smoke yn hidio dim am eu presenoldeb gan ddweud eu bod jest yn busnesa.

Amlygu'r brad golygu

Mae CJ yn darganfod trwy Cesar Vialpando bod Big Smoke wedi croesi'r gang ar ôl gweld cyfarfod rhyngddo, Ryder, CRASH a'r Ballas. Mae Ceaser yn mynd a CJ i fan y cyfarfod lle mae car Saber gwyrdd yn cael ei gadw.[4] Dyma'r fath o gar a ddefnyddiwyd yn yr ymosodiad a achosodd farwolaeth mam CJ, sy'n awgrymu'n gryf bod Smoke a'i gynghreiriaid wedi bod yn rhan o'i llofruddiaeth. Wrth glustfeinio ar y bradychiad mae CJ yn dysgu bod y Ballas wedi hudo Sweet i mewn i drap.

Cyn i CJ cael cyfle i'w rhybuddio mae gang y Ballas yn ymosod ar Sweet ac mae'n cael ei glwyfo yn y frwydr ddilynol. Mae CJ yn cyrraedd maes y gad ac yn achub bywyd ei frawd, ond mae'r ddau yn cael eu harestio gan yr heddlu. Mae Sweet yn cael ei roi ar brawf, yn cael ei ddyfarnu'n euog o nifer o droseddau ac yn cael ei ddedfrydu i garchar am oes. Ond mae gan CRASH angen help CJ o hyd. Maent yn ei herwgipio ac yn ei adael yng nghefn gwlad gyda'r dasg o ladd tyst yn eu herbyn mewn achos o lygredigaeth. Maent yn rhybuddio CJ i gadw draw o Los Santos wedi cyflawni'r dasg. Yn dilyn y digwyddiadau hyn, mae GFS yn colli eu dylanwad unwaith eto ac yn ildio eu holl diriogaethau i'r gangiau sy'n elyniaethus iddynt.

Dylanwad cynyddol golygu

Yn ystod alltudiaeth CJ o Los Santos, mae Smoke yn cynghreirio gyda'r Loco Syndicate (cartel cyffuriau mwyaf San Andreas). Mae'n cuddio ei weithgareddau troseddol trwy ei gyfeillion yn CRASH ac mae'n creu delwedd gyhoeddus gadarnhaol trwy sefydlu cartref plant amddifad. Ar ei anterth, mae Smoke yn byw mewn palas mawr caerog, y cyfeirir ati fel y "Caer Grac", sydd wedi'i leoli yn ddwfn o fewn tiriogaeth gang Ballas. Mae'n byw mewn moethusrwydd ac mae ei fenter yn cael ei amddiffyn gan gangiau 'r Ballas a Vagos, sydd â rheolaeth lwyr dros strydoedd y ddinas. Fodd bynnag, wrth i amser fynd rhagddo, mae Big Smoke yn dod yn fwyfwy paranoid ac yn gwrthod ymadael ei gartref oherwydd ei fod yn credu y bydd rhywun yn ceisio dwyn ei fusnes.

Yn absenoldeb Sweet a CJ, mae Smoke a Ryder yn diddymu gang GSF, gan adael eu holl diriogaeth arall yn nwylo'r Ballas. Yn y cyfamser, mae rhai aelodau GSF yn dechrau gweithio fel smyglwyr cyffuriau, gan fynd â nhw o'r ffatri'r Loco Syndicate yn Doherty, San Fierro yn ôl i Los Santos. Mae Cesar Vialpando, yn darganfod hyn ac yn rhybuddio CJ o'r hyn sy'n digwydd. Mae CJ yn atal nifer o'r cyflenwyr rhag cyrraedd Los Santos er mwyn amharu ar lif cyffuriau i'r ddinas. Yn ddiweddarach, mae CJ a Cesar yn tynnu lluniau o Ryder yn cwrdd â thri dyn arall. Maent yn canfod mae enwau'r tri yw Jizzy B., T-Bone Mendez a Mike Toreno. Mae CJ, ar ôl dychwelyd i'w garej yn San Fierro, yn gofyn i Wu Zi Mu a'i gynghreiriaid Triad i ddarganfod mwy am y tri.

Mae CJ yn dechrau gweithio i Jizzy B, er mwyn ceisio casglu mwy o wybodaeth am ei weithredoedd, ac yn ennill ei ymddiriedaeth. Mae CJ yn lladd Jizzy, T-Bone a'r ac asiant cudd Mike Toreno (sydd, mewn gwirionedd wedi llwyddo ffoi'n fyw) yn ogystal â Ryder. Mae o hefyd yn dinistrio eu ffatri gweithgynhyrchu cyffuriau, gan atal y cyflenwad yn ôl i Los Santos. Mae Smoke, fodd bynnag, yn dechrau ffatri weithgynhyrchu newydd yn Nwyrain Los Santos. Mae Smoke hefyd yn dechrau gweithio fel rheolwr OG Loc, sy'n rapiwr uchelgeisiol ac yn gyfaill plentyndod i Smoke a CJ, bu CJ yn gymorth i ddechrau 'i yrfa.

Marwolaeth Big Smoke golygu

Yng nghanol terfysg ar draws y ddinas, mae CJ yn wynebu Smoke yn ei gaer grac, lle mae'r pâr yn cymryd rhan mewn brwydr arfog hir sy'n arwain, yn y pen draw, at farwolaeth Big Smoke [5]. Wrth iddo farw, mae Smoke yn esbonio ei fod wedi bradychu'r gang oherwydd ei fod wedi gwêl cyfle i ddod yn gyfoethog ac yn enwog, a'i fod wedi derbyn y cyfle heb ofidio am y canlyniadau. Mae'n dweud, oherwydd ei natur farus, nad oedd ganddo unrhyw ddewis arall. Gyda'i anadl farw, mae Big Smoke yn ymffrostio, "Bydd pawb yn cofio'r enw: Big Smoke!"

Cyfeiriadau golygu