Billy Douglas

chwaraewr rygbi'r undeb Cymreig

Roedd William Matthew Douglas (2 Gorffennaf 186324 Medi 1943) yn olwr rygbi 'r undeb Cymreig a chwaraeodd rygbi clwb i Glwb Rygbi Treganna, Caerdydd a rygbi rhyngwladol i Gymru. Roedd Douglas hefyd yn ddyfarnwr rygbi, bu'n dyfarnu ar bedair gêm ryngwladol.

Billy Douglas
Enw llawn William Matthew Douglas
Dyddiad geni (1863-07-02)2 Gorffennaf 1863
Man geni Caerdydd
Dyddiad marw 24 Medi 1943(1943-09-24) (80 oed)
Taldra 5'8" [1]
Pwysau 10St 8Lb
Gwaith Allforio glo
Gyrfa rygbi'r undeb
Gyrfa'n chwarae
Safle Blaenwr
Clybiau amatur
Blynyddoedd Clwb / timau
1880–1883
1883–?
Treganna
Caerdydd
Timau cenedlaethol
Blynydd. Clybiau Capiau
1886–1887 Cymru Cymru 4 (0)

Cefndir golygu

Ganwyd Douglas yng Nghaerdydd yn blentyn i John Douglas, brocer llongau, a Mary (née Donovan) ei wraig. Roedd ei dad yn dod o'r Alban a'r fam o'r Iwerddon.

Mewn cyfnod pan oedd rygbi yn gêm amatur ac nid oedd hawl dderbyn tal am chwarae bu Douglas yn gweithio fel clerc i gwmni allforio glo cyn cael ei ddyrchafu i reolwr y cwmni ac yna'n berchennog pwll glo.

Gyrfa rygbi golygu

Chwaraeodd Douglas rygbi clwb i Glwb Rygbi Treganna a Chlwb Rygbi Caerdydd, ac yn nhymor 1885-86 olynodd Frank Hancock fel capten y tîm cyntaf.[2] Dewiswyd Douglas i chwarae ei gêm gyntaf i dîm cenedlaethol Cymru fel rhan o Bencampwriaeth Rygbi'r Pedair Gwlad 1886 yn y gêm agoriadol yn erbyn Lloegr. Capten y tîm oedd Charlie Newman o Gasnewydd ac roedd Douglas yn un o dri chwaraewr o Gaerdydd a enillodd eu cap cyntaf yn y gêm. Er i Gymru golli'r gêm, roedd yn gêm agos ac ail-ddewiswyd Douglas ar gyfer gêm ryngwladol nesaf Cymru, y tro hwn yn erbyn yr Alban. Collodd Cymru'r gêm hon, ond oherwydd anghydfod ag Iwerddon methwyd â chwblhau'r holl gemau yn y twrnamaint. Yn nhwrnamaint y flwyddyn nesaf dewiswyd Douglas ar gyfer y ddwy gêm gyntaf. Y cyntaf oedd gêm gyfartal yn erbyn Lloegr yn Llanelli, canlyniad gorau'r wlad hyd yma yn erbyn y Saeson. Ei bedwaredd gêm a'r olaf oedd ail gêm Pencampwriaeth 1887 y tîm, oddi cartref i'r Alban, pan gollodd Cymru eto.

Bedair blynedd ar ôl diwedd ei yrfa chwarae ryngwladol, cychwynnodd Douglas ei yrfa dyfarnu ryngwladol. Dewiswyd Douglas i ddyfarnu gêm Pencampwriaeth Pedwar Gwlad 1891 rhwng Iwerddon a Lloegr yn Lansdowne Road. Roedd ei ail gêm fel dyfarnwr ym 1894, mewn gêm rhwng Lloegr ac Iwerddon a chwaraewyd y tro hwn ar y Rectory Field, Blackheath, Llundain.[3] Roedd ei ddwy gêm ryngwladol olaf fel dyfarnwr rhwng Lloegr a'r Alban, ym 1896 a 1903. Roedd gêm 1903 yn nodedig, gan iddi weld unig ymddangosiad John Dallas o'r Alban, a sgoriodd gais yn y gêm hefyd. Byddai Dallas ei hun yn mynd ymlaen i ddyfarnwr ar lefel ryngwladol, yn y gêm enwog ym 1905 rhwng Cymru a Seland Newydd.

Gemau Rhyngwladol golygu

Cymru[4]

Yn ogystal â chwarae rygbi bu hefyd yn chwarae criced i dîm y Barri.[5]

Teulu golygu

Ym 1887 priododd Douglas ag Emma Rees ym Mhenarth fu iddynt dau fab a merch.

Cyfeiriadau golygu

  1. "South Wales Football Players - South Wales Echo". Jones & Son. 1886-04-28. Cyrchwyd 2020-10-16.
  2. Marshall, Francis Football; the Rugby union game (1892) Cassell and company Ltd. tud 265
  3. "ENGLANDVIRELAND - The Western Mail". Abel Nadin. 1894-02-05. Cyrchwyd 2020-10-16.
  4. Smith, David; Williams, Gareth (1980). Fields of Praise: The Official History of The Welsh Rugby Union. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. ISBN 0-7083-0766-3 tud 465.
  5. "LOCAL CRICKET - Barry Dock News". South Wales Advertising, Printing, and Publishing Company. 1890-05-16. Cyrchwyd 2020-10-16.