Mae'r Blaidd Mawr Drwg yn gymeriad sy'n ymddangos mewn sawl chwedl i blant. Mae i'w cael yn enwedig yn y ddwy chwedl draddodiadol gyfarwydd Y Tri Mochyn Bach a chwedl Hugan Goch Fach. Yn y chwedlau hyn, ac eraill, mae'n ymgorffori ynddo ei hun perygl, yr anghyfarwydd neu'r diarth, y Byd Mawr tu hwnt i gynefin y plentyn, a chosb am anufuddhau.

Blaidd Mawr Drwg
Enghraifft o'r canlynolfictional wolf, archetype, folklore character, cymeriad llenyddol, cymeriad mewn comic Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydluc. 4 g CC Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Gweler hefyd: Blaidd (mytholeg).
Y Blaidd a Hugan Goch Fach, darlun gan Gustave Doré.

Ffilmiau animeiddiedig golygu

I ryw raddau, mae cymeriadau Will E. Coyote a Sylvestre yn y cyfresi ffilmiau animeiddiedig Looney Tunes gan y Brodyr Warner yn dwyn rhai nodweddion cymeriad y Blaidd Mawr Drwg. Mae'r ffilmiau am gymeriad Sylvester yn cynnwys addasiad o chwedl Hunan Goch Fach.

Ceir enghraifft arall yn ffilmiau animeiddedig Tex Avery. Yno mae'r blaidd yn sefyll am y Dyn ystrydebol : yn ferchetwr, bragiwr, ac yn gnaf, heb gydwybod o gwbl.

Yn 1933 cynhyrchodd Cwmni Disney fersiwn animeiddiedig o'r Tri Mochyn Bach fel rhan o'r gyfres Silly Symphonies; datblygwyd cymeriad y blaidd gan Disney i greu cymeriad "drygionus" sy'n ymddangos mewn nifer o ffilmiau byr wrth yr enw "Big Wolf".