Blanche Ames Ames
Ffeminist Americanaidd oedd Blanche Ames Ames (ganwyd 1878) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel dylunydd botanegol, artist dyfrlliw, dyfeisiwr a swffragét. Credai'n gryf mewn atal cenhedlu ac etholfraint.
Blanche Ames Ames | |
---|---|
Ganwyd | 18 Chwefror 1878 Lowell |
Bu farw | 2 Mawrth 1969 Easton |
Man preswyl | Borderland State Park |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | dylunydd botanegol, dyfeisiwr, llenor, artist dyfrlliw, swffragét, dylunydd gwyddonol, arlunydd |
Tad | Adelbert Ames |
Mam | Blanche Butler Ames |
Priod | Oakes Ames |
Plant | Pauline Plimpton, Amyas Ames |
Ganed Blanche Ames yn Lowell, Massachusetts, Unol Daleithiau America a bu farw yn Easton, Massachusetts. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Smith, Massachusetts. [1] Bu'n briod i Oakes Ames. Un o wyrion Ames oedd George Ames Plimpton, ysgrifennwr chwaraeon enwog.[2][3][4][5]
Bywyd personol
golyguRoedd Ames yn ferch i Gadfridog yn y fyddin a oedd hefyd yn Llywodraethwr Mississippi, Adelbert Ames, a Blanche Butler Ames.[6] Hi oedd y pedwerydd o chwech o blant, roedd hi'n chwaer i Adelbert Ames Jr., gwyddonydd amlwg. Roedd hi hefyd yn wyres i'r Cadfridog-Lywodraethwr Benjamin Butler a'r actores Sarah Hildreth Butler.[7]
Roedd hi'n un o ychydig o ferched ei chyfnod i fynychu'r coleg, gan ennill gradd B.A. mewn Hanes Celf a diploma mewn Celf Stiwdio o Goleg Smith ym 1899. Hi oedd llywydd ei dosbarth graddio.[8]
Yn 1900 priododd athro botaneg Prifysgol Harvard, Oakes Ames (dim perthynas), a chymrodd yr enw priod "Blanche Ames Ames". Roedd gan yr Ameses bedwar o blant: Pauline (ganwyd 1901), Oliver (1903), Amyas (1906), ac Evelyn (1910).[9]
Yr awdur
golyguYsgrifennodd lawer o lyfrau am ei theulu, gan gynnwys Oakes Ames, Jottings of a Harvard Botanist (1979), a The Plimpton Papers, Law and Diplomacy (1985).[10]
Yr arlunydd
golyguRoedd Ames yn arlunydd talentog mewn amryw o gyfryngau. Roedd ei gwaith yn cynnwys portread, wedi'i wneud yn bennaf mewn paent olew, darlunio botanegol, a chartwnau gwleidyddol.[11]
Ym 1902, dechreuodd ddarlunio cyhoeddiadau botanegol ei gŵr, Oakes Ames, gan gynnwys ei draethawd saith cyfrol ar degeirianau, sy'n dal i gael ei ystyried yn un o'r rhai gorau yr ymchwiliwyd iddo hyd heddiw.[11][12]
Anrhydeddau
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Galwedigaeth: https://lemelson.mit.edu/resources/blanche-ames. dyddiad cyrchiad: 23 Medi 2019. https://dsi.hi.uni-stuttgart.de/index.php?table_name=dsi&function=details&where_field=id&where_value=6418. dyddiad cyrchiad: 31 Mawrth 2019.
- ↑ Disgrifiwyd yn: https://cartoons.osu.edu/biographical-files/.
- ↑ Rhyw: Ffeil Awdurdodi Rhyngwladol. dyddiad cyrchiad: 4 Tachwedd 2018.
- ↑ Dyddiad geni: "Blanche Ames". Union List of Artist Names. dynodwr ULAN: 500057581. "Blanche Ames Ames". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Blanche Ames". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Blanche Ames". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
- ↑ Dyddiad marw: "Blanche Ames". Union List of Artist Names. dynodwr ULAN: 500057581. "Blanche Ames Ames". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Blanche Ames". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Blanche ° Ames". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
- ↑ Massachusetts Department of Conservation and Recreation. "Ames Family History". Borderlands Park. Cyrchwyd 2016-05-29.
- ↑ Clark, Anne Biller (1994). My Dear Mrs. Ames: A Study of the Life of Cartoonist and Birth Control Reformer, Blanche Ames Ames, 1878-1969. University of Massachusetts Amherst.
- ↑ "Blanche Ames Ames". Mass.gov. Cyrchwyd 29 Hydref 2014.
- ↑ Mass. Dept. of Conservation and Recreation, "Blanche Ames Ames" (last visited 2010/05/04.
- ↑ Thomas, Robert McG. Jr. (17 Ebrill 1995). "Pauline A. Plimpton, 93, Author of Works on Famed Relatives". The New York Times. Cyrchwyd 22 Hydref 2014.
- ↑ 11.0 11.1 "Blanche Ames". Unitarian Universalist Congregation of Frederick. 4 Medi 2010. Cyrchwyd 29 Hydref 2014.
- ↑ Behrens, Roy R. (1998). "The Artistic and Scientific Collaboration of Blanche Ames Ames and Adelbert Ames II". Leonardo (MIT Press) 31 (1): 47–54. doi:10.2307/1576548. JSTOR 1576548. https://archive.org/details/sim_leonardo_1998_31_1/page/47.