Blodeuglwm
Casgliad o flodau mewn trefniant creadigol yw blodeuglwm. Gellir eu trefnu ar gyfer addurno cartrefi neu adeiladau cyhoeddus, neu gellir eu cynnal â llaw. Addurniadau ydynt yn aml, a chânt eu defnyddio'n helaeth mewn priodasau yn arbennig, yn ogystal ag achlysuron arbennig eraill fel penblwyddi, angladdau a seremonïau gwobrwyo (yn y Gemau Olympaidd, er enghraifft). Gellir cysylltu symbolaeth â'r mathau o flodau a ddefnyddir, yn ôl y diwylliant.
Math o gyfrwng | cynnyrch |
---|---|
Math | bwndel, decoration |
Yn cynnwys | planhigyn blodeuol |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |