Bodo Liberation Tigers Force
(Ailgyfeiriad o Bodo Liberation Tiger Force)
Mudiad arfog sy'n galw am sefydlu mamwlad i'r bobl Bodo yn nhalaith Assam, yng ngogledd-ddwyrain India, yw'r Bodo Liberation Tigers Force (enw Saesneg "swyddogol"). Mae'n galw am rannu Assam 50:50 ar linellau ethnig i greu mamwlad i'r bobl Bodo. Mae'n defnyddio tactegau herwfilwrol ac ymosodiadau terfysgol i'r perwyl hwnnw.
Gwrthwynebir y Teigrod o fewn Assam gan yr United Liberation Front of Assam, sy'n ceisio annibyniaeth i Assam, ac mae gwrthdaro gwaedlyd wedi digwydd ar achlysur rhwng y ddau fudiad.