Addurn blodeuol, fel arfer blodyn neu flaguryn unigol, sy'n cael ei wisgo ar llabed tucsedo neu siaced siwt yw boutonnière (Ffrangeg: [butɔnjɛʁ]; Saesneg: 'buttonhole').

Boutonnière wedi'i wisgo ar llabed tucsedo.

Mae boutonnières bellach yn cael eu gwisgo fel arfer ar achlysuron arbennig, yn arbennig pan y disgwylir gwisg ffurfiol,[1] fel angladdau neu briodasau.

Yn draddiadol, byddai boutonnière yn cael ei wthio trwy dwll botwm yn y llabed (ar y chwith, yr un ochr â'r hances boced) a'r goes yn cael ei dal yn ei lle gan ddolen ar gefn y llabed. Dylai calycs y blodyn, os ydynt yn amlwg fel ar garnasiwn, gael eu gwthio yr holl ffordd i mewn i'r twll a'i ddal yn dynn a gwastad yn erbyn y llabed. Felly dylai'r twll fod o leiaf 1⅛" o hyd er mwyn rhoi digon o le ar gyfer calycs y blodyn. Fel arall, ni fydd y calycs yn ffitio i mewn i'r twll a bydd pen y blodyn yn hongian yn rhydd ac yn symud yn y gwynt. Os nad oes dolen ar y llabed, neu dwll sy'n addas, defnyddir pin i ddal y boutonnière yn ei lle.

Cyfeiriadau golygu

  1. Boehlke, Will (2007-01-07). "What's in your lapel?". A Suitable Wardrobe. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-10-14. Cyrchwyd 2008-09-24. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)