Math o chwaraeon dan do yw bowlio mat byr (neu bowls mat byr) lle mae chwaraewyr yn ceisio sgorio pwyntiau trwy rolio pêl drom ar hyd arwyneb gweddol wastad i geisio cael eu cael i ddod i stop yn agosach at y 'jac' na'u gwrthwynebwyr. Mae'r gêm yn amrywiad modern ar bowls lawnt.

Gan fod bowlio mat byr yn cael eu chwarae dan do, nid yw'n cael ei effeithio gan y tywydd. Mae'r offer yn gludadwy ac yn hawdd i'w osod, ac felly'n arbennig o briodol ar gyfer lleoliadau sydd hefyd yn cael eu defnyddio at ddibenion eraill fel neuaddau pentref, ysgolion, a chlybiau chwaraeon a chymdeithasol. Mae hyd yn oed yn cael ei chwarae ar rigiau olew Môr y Gogledd .[1]

Mae bowlio mat byr i fod i gael ei chwarae ar fat sy'n 40-45 troedfedd (12-14 medr) o hyd a 6 troedfedd (1.8 medr) o led. Mae'r mat sy'n cael ei ddefnyddio wedi'i wneud o ewyn neu rwber, ac mae'r llinellau gofynnol wedi'u marcio'n barhaol. Mae ffender pren yn cael ei roi ar y ddau ben i gadw'r bowls rhag rholio oddi ar y mat. Mae bloc yn eistedd yng nghanol y mat; rhaid i chwaraewyr osgoi taro'r bloc gyda'u bowls wrth iddynt rowlio i lawr y mat. Y 'jac' yw'r targed sydd ar un pen o'r mat.[2]

Mae'r jac a ddefnyddir mewn bowls mat byr yn drymach (900 gram) na'r jack sy'n cael ei ddefnyddio mewn mathau eraill o bowls. 225-285 gram yw'r jac a ddefnyddir ar gyfer bowls mat hir a 382-453 gram yw'r jac a ddefnyddir wrth chwarae bowls dan do.[3]

Nid oes sicrwydd ynghylch tarddiad y gêm, ond un stori yw iddi gael ei chwarae gyntaf yng Nghymru gan ddau o Dde Affrica a ddaeth i weithio yn yr ardal. Roedden nhw wedi chwarae bowls awyr agored yn Ne Affrica ac, efallai oherwydd yr hinsawdd wael yng Nghymru, dechreuon nhw chwarae addasiad o'r gêm awyr agored ar stribed o garped mewn neuadd eglwys. Rhywbryd yn ddiweddarach, symudon nhw i Ogledd Iwerddon a chymryd y gêm newydd gyda nhw. Lluniwyd rheolau ac amodau chwarae ac yn fuan daeth y gêm yn boblogaidd. Fe'i cyflwynwyd i Loegr gan Wyddelod, ond araf oedd ei datblygiad tan yr 1980au pan sefydlwyd bowls mat byr chwaraeon cost isel i bobl o bob oed.[4]

Sefydlwyd Cymdeithas Bowls Mat Byr Cymru yn 1987 gyda'r nod o gyflwyno a datblygu'r gêm yng Nghymru, ac yng Nghlwyd y sefydlwyd y gymdeithas sirol gyntaf.

Cyfeiriadau golygu

  1. "History of short mat bowling" (PDF). Notlbowls.ca. Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
  2. Murphy, A. (28 Ebrill 2015). Working with Elderly People: A Care Worker's Handbook. Troubador Publishing Ltd. t. 113. ISBN 978-1-78462-052-3.
  3. "Lawn Bowls FAQ". Vale Bowling Club. Cyrchwyd 10 Hydref 2017.
  4. Pickup, Gilly (15 Tachwedd 2015). What the British Invented: From the Great to the Downright Bonkers. Amberley Publishing Limited. ISBN 978-1-4456-5028-9.