Amddiffyniad mewn achos difenwi yw braint absoliwt, lle bydd imiwnedd yn cael ei roi i unrhyw ddatganiadau a wneir, hyd yn oed os gwneir hwy yn faleisus.

Enghreifftiau o hyn yw datganiadau a wneir yn y Senedd neu a gyhoeddir ganddi, yn ogystal â datganiadau a wneir yn ystod achosion cyfreithiol a gohebiaeth rhwng swyddogion gwladol penodol, yn ogystal ag adroddiadau cyfredol teg a chywir o achosion yn llysoedd y DU a thribiwnlysoedd goruwchgenedlaethol. Mae'n deillio o'r Mesur Hawliau 1688 yn wreiddiol, ond yn ddiweddar fe'i gosodwyd ar sylfaen statudol pellach yn Neddf Difenwi 1996.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Termau Iaith Uwch". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-07-29. Cyrchwyd 2017-03-29.