Breuddwyd
Mae breuddwyd yn gyfres o ddelweddau, synau neu emosiynau sy'n mynd drwy'r meddwl yn ystod cwsg. Nid yw cynnwys a phwrpas breuddwydion yn cael eu deall yn llawn, er eu bod yn wrthrych dyfalu a diddordeb trwy gydol hanes.
![]() | |
Math | proses meddyliol, incident ![]() |
---|---|
![]() |
Ystyr ddiwylliannol breuddwydio Golygu
Drwy gydol hanes, mae pobl wedi ceisio darganfod ystyr mewn breuddwydion neu dewinio trwy freuddwydion. Mae breuddwydion wedi cael eu disgrifio'n ffisiolegol fel ymateb i brosesau nerfol yn ystod cwsg, yn seicolegol fel myfyrdodau yr isymwybod, ac yn ysbrydol fel negeseuon gan duwiau, yr ymadawedig, rhagfynegiadau o'r dyfodol neu o'r enaid.