Brwydr Bunker Hill
Ymladdwyd Brwydr Bunker Hill ger Boston, Massachusetts ar 17 Mehefin 1775 yn ystod Rhyfel Annibyniaeth America. Roedd y frwydr yn fuddugoliaeth i'r fyddin Brydeinig, o dan arweinyddiaeth General Howe; ond dioddefodd y fyddin golledion mawr - lladdwyd mwy na 200 o filwyr. Collwyd tua 100 o filwyr gan y gwrthryfelwyr Americanaidd, o dan arweinyddiaeth William Prescott. Fel un o ddigwyddiadau pwsyig cyntaf y rhyfel, gwelir y frwydr fel tystiolaeth bod y gwrthryfelwyr yn barod i frwydro dros ryddid eu gwlad.
![]() | |
Data cyffredinol | |
---|---|
Enghraifft o'r canlynol | brwydr ![]() |
Dyddiad | 17 Mehefin 1775 ![]() |
Rhan o | Rhyfel Annibyniaeth America ![]() |
Lleoliad | Charlestown ![]() |
![]() | |
Gwladwriaeth | Unol Daleithiau America ![]() |
![]() |

The Death of General Warren at the Battle of Bunker Hill gan John Trumbull