Brwydr Ia Đrăng
Y frwydr fawr gyntaf rhwng Byddin yr Unol Daleithiau a Byddin Pobl Fietnam yn ystod Rhyfel Fietnam oedd Brwydr Ia Đrăng (Saesneg: Battle of Ia Drang; Fietnameg: Trận Ia Đrăng). Digwyddodd mewn dau ran rhwng 14 a 18 Tachwedd 1965 yn Ucheldiroedd Canolbarth De Fietnam, tua 35 milltir i dde orllewin Pleiku.
Enghraifft o'r canlynol | brwydr |
---|---|
Rhan o | Rhyfel Fietnam |
Dechreuwyd | 14 Tachwedd 1965 |
Daeth i ben | 18 Tachwedd 1965 |
Lleoliad | Ia Drang River |
Gwladwriaeth | Fietnam |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Adroddir hanes y frwydr yn y llyfr We Were Soldiers Once… And Young gan Harold G. Moore a Joseph L. Galloway. Addaswyd y llyfr yn ffilm yn 2002 dan y teitl We Were Soldiers ac yn serennu Mel Gibson a Barry Pepper fel Moore a Galloway.