Brwydr Moel-y-don

brwydr rhwng milwyr Edward I o Loegr a milwyr Llywelyn ap Gruffudd

Ymladdwyd Brwydr Moel-y-don ar 6 Tachwedd 1282 ar Afon Menai rhwng milwyr Edward I o Loegr a milwyr Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru, er mwyn amddiffyn Gwynedd rhag y Saeson. Er mai fel 'Brwydr Moel-y-don' y cyfeirir ati yn gyffredinol, mae lle da i gredu mai ar Draeth Lafan rhwng Llan-faes, Môn a'r tir mawr yr ymladdwyd hi, yn hytrach na ger Moel-y-don ei hun.

Brwydr Moel-y-don
Mathbrwydr Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolgoresgyniad Edward I Edit this on Wikidata
LleoliadTraeth Lafan Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.23°N 4.154°W Edit this on Wikidata
Map
Cyfnod6 Tachwedd 1282 Edit this on Wikidata
Arfbais rhyfel Llywelyn ll

Yn ystod yr haf, 1282, goresgynnwyd Môn gan ran o fyddin Edward I a laniodd yno ar ôl hwylio o Ruddlan. Bwriad Edward oedd dwyn cynhaeaf yr ynys ac felly tynhau'r rhaff o gwmpas Gwynedd yn ei ymdrech i orchfygu'r Cymry. Aeth y Saeson ati i godi pont o bren dros Afon Menai yn ystod yr haf a dechrau'r hydref. Mae lleoliad y bont honno yn ansicr ac mae'n debyg mai pontŵn (sef pont o gychod wedi'u rhaffu wrth ei gilydd) oedd hi. Ni cheir cyfeiriadau at y frwydr fel 'Brwydr Moel-y-don' tan yr 16g. Mae Moel-y-don yn safle hen fferi a leolir nid nepell o Lanidan. Ond roedd pencadlys y Saeson yn ardal Llan-faes, tua 7 milltir i'r dwyrain, ac roedd y gwaith yn golygu symud deunydd trwm a gweithwyr. Buasai'r Saeson yn wynebu anawsterau mawr i ymladd eu ffordd trwy goedwigoedd tewfrig ar ôl glanio hefyd. Cynigir gan haneswyr diweddar fel J. Beverley Smith mai rhwng Llan-faes ac ardal Bangor y codwyd y bont mewn gwirionedd gyda'r bwriad o ymosod ar lys Llywelyn yn Abergwyngregyn, dros Draeth Lafan.

Ar Ddyddgwyl Sant Lennard (6 Tachwedd), gwelwyd mintai gref o farchogion a milwyr traed Seisnig ar y bont. Cofnodir yr hyn a ddilynodd gan sawl croniclydd Seisnig. Ymddengys fod y Saeson ar Fôn wedi penderfynu ymosod heb orchymyn gan eu brenin a dywedir hefyd nad oedd y bont yn gwbl barod. Roedd yno saith marchog a thri chant o filwyr traed. Ar ôl iddynt lanio (yn fwy na thebyg ar Draeth Lafan) daeth y llanw i mewn yn gyflym gan adael dŵr rhyngddynt a'r bont. Yn sydyn, ymosododd y Cymry "allan o'r mynyddoedd uchel". Cymaint oedd braw a dychryn y Saeson fel y ffoesant yn ôl am y bont. Boddwyd pob un ohonynt, yn llwythog o arfwisgoedd trwm, yn ceisio dianc o afael gwŷr Llywelyn.

Bu sôn am y golled drychinebus (o safbwynt Lloegr) gan y Saeson am flynyddoedd ar ôl y digwyddiad. Roedd yn achos dathlu i'r Cymry, fodd bynnag, a cheir cyfeiriadau at y gyflafan yn y canu darogan.

Ffynhonnell golygu

  • J. Beverley Smith, Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru (Caerdydd, 1986), tt. 362-365.