Bulgogi
Mae Bulgogi (/bʊlˈɡoʊɡiː/ buul-GOH-ghee;[1] o'r gair Coreaidd bulgogi [pul.ɡo.ɡi]), yn llythrennol "cig tân", yn gui (pryd sydd wedi'i grilio neu rhostio mewn steil Coreaidd) sy'n cael ei wneud o dafelli tenau o gig eidion neu borc sydd wedi'u marinadu a'i grilio ar farbiciw neu gradell ar stôf. Gellir hefyd ei dro-ffrio mewn padell. Mae cig eidion syrlwyn, 'rib eye' or brisged yn aml yn cael ei ddefnyddio ar gyfer y pryd.
Math | beef dish |
---|---|
Rhan o | coginio Corea |
Yn cynnwys | cig eidion |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "bulgogi". Oxford Dictionary of English. Oxford University Press. Cyrchwyd 8 January 2017.[dolen farw]