Bwystfil Bont

cath mawr a honwyd ei gweld ger Pontrhydfendigaid

Bwystfil - chwedlonol neu ddychmygol yn ôl rhai - yw Bwystfil Bont sy’n parhau i ymosod ar anifeiliaid ffermydd Ceredigion. Honnir gan nifer o lygad-dystion iddynt adnabod ffigur cath ddu enfawr ar hyd caeau ffermydd Sir Ceredigion wrth iddi nosi.[angen ffynhonnell]

Ers 30 mlynedd mae’r heddlu wedi derbyn galwadau niferus yn son am olwg o gathod enfawr tebyg i bwma, panther, llewpard neu lyncs. Y dystiolaeth bennaf am fodolaeth y creadur yw’r gyfradd farwolaeth uchel yn ffermydd Ceredigion, yn enwedig wedi astudio’r marciau crafangau miniog a welir ar breiddiau o ddefaid.

Daeth Americanwr o’r enw Tom Brown i Gymru i astudio a chwilio am drywydd y 'Bwystfil'. Dywedodd dynes leol i’r Americanwr fynegi "that there are definitely big cats in Mid Wales".

Elfen o ddirgelwch a rhyfeddod bellach ynghylch y creadur yw pa mor dawel y cyflawnir yr ymosodiadau. Dywedwyd am ddigwyddiad pan ymosododd y ‘Bwystfil’ ar un ddafad, gan arwahanu ei hysgwydd a’i choes o weddill ei chorff. Fodd bynnag, parhau i gysgu oedd gweddill y praidd.

Dolen allanol

golygu