Byd gwyn fydd byd a gano
Arwyddair Eisteddfod Ryngwladol Llangollen yw:
Byd gwyn fydd byd a gano,
Gwaraidd fydd ei gerddi fo.
Hanes
golyguCafodd yr arwyddair a sgwennwyd gan y bardd T. Gwynn Jones[1] yn 1946, ychydig fisoedd cyn yr Eisteddfod gyntaf yn 1947. Mae i'r gair 'gwyn' nifer o ystyron, wrth gwrs, er enghraifft i gyfleu'r syniad o burdeb, ac fe'i defnyddir yn aml yn y Beibl, yn y Gwynfydau er enghraifft, lle gellir ei gyfieithu i blessed.[2] Ysgythrwyd yr arwyddair ar dlysau, ar waith celf ac ar arteffactau amrywiol yr Eisteddfod ers 75 mlynedd.[3] Prif sylfaenydd yr Eisteddfod oedd y cerddor W. S. Gwynn Williams,[4] a chyfeiria'r arwyddair, ar lefel ysgafn ond clyfar, at y ffaith honno.
Newid posib
golyguFodd bynnag, ar 17 Mawrth 2023, cyhoeddodd Cynhyrchydd Arbennig yr Eisteddfod, sef y Saesnes Camilla King, i un o'u partneriaid gwyno gan y gellir, yn eu barn nhw, gamddehongli'r ystyr — yn llythrennol — i olygu'r lliw gwyn, yn hytrach na dymuniad o sancteiddrwydd. Dywedodd y bydd yr Eisteddfod yn newid yr arwyddair. Cafwyd ton o wrthwynebiad i benderfyniad yr Eisteddfod.
Ddiwedd Mawrth, mewn llythyr at y Western Mail, dywedodd yr Athro Gruffydd Aled Williams, ynghyd ag 84 o bobl eraill, ledled y byd, na wyddant am unrhyw iaith arall lle byddai brodorion yr iaith yn newid y defnydd o air neu derm rhag ofn i'r term hwnnw gael ei gamgyfieithu.[5]
Ymatebodd yr Eisteddfod drwy ddweud mai arolygu'r sefyllfa y maen nhw, bellach, ac nad oes dim yn bendant; fe ddywedon nhw nad oedd unrhyw honiad fod y gŵyn yn un hiliol.
Tro pedol
golyguAr 11 Ebrill gwnaeth Llangollen dro pedol. Mewn datganiad, dywedodd yr Eisteddfod: "Yn dilyn cryn ystyriaeth o ymateb y cyhoedd, mae’r Bwrdd wedi pleidleisio i barhau i ddefnyddio arwyddair T. Gwynn Jones.[6]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "JONES, THOMAS GWYNN (1871 - 1949), bardd ac un o lenorion mwyaf amlochrog Cymru, newyddiadurwr, cofiannydd, darlithiwr, ysgolhaig, athro, cyfieithydd | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2023-08-28.
- ↑ . Testament Newydd ein Harglwydd a'n Hiachawdwr Iesu Grist. Llundain: Cymdeithas y Beibl. 1879.
- ↑ Gwefan yr Eisteddfod Ryngwladol; adalwyd 2 Ebrill 2023.
- ↑ "WILLIAMS, WILLIAM SIDNEY GWYNN (1896-1978), cerddor a gweinyddwr | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2023-08-28.
- ↑ Jones, Branwen (2023-03-31). "Leading figures criticise Eisteddfod's decision to change 'white world' motto". WalesOnline (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-05-09.
- ↑ "Eisteddfod Llangollen yn gwneud tro pedol ar ddefnyddio ei harwyddair". Newyddion S4C. 11 Ebrill 2023.