Ymwthiad

(Ailgyfeiriad o Byrfraich)

Ymarferiad calisthenig yw'r ymwthiad[2] neu'r byrfraich.[3][4] Gwneir drwy orwedd ar eich blaen ac yn gwthio'r corff i fyny ac i lawr gyda'r breichiau.[5]

Dyn yn ymarfer ymwthiadau.
Y dand, a elwir hefyd yn gwthio i fyny Hindŵaidd. Dyma'r fersiwn fwyaf sylfaenol, yn debyg i'r un a ddefnyddiwyd gan Bruce Lee a gyfeiriodd ato fel darn cath.[1]

Mae'r ymarfer hwn yn targedu cyhyrau'r brif ddwyfronneg, triphen y fraich a'r deltoid blaen yn bennaf, a'r seratws blaen, y trapesiws, a chyhyr syth yr abdomen yn eilaidd.[5]

Ceir nifer o amrywiadau i'r ymarferiad hwn, gan gynnwys yr ymwthiad uchel, yr ymwthiad ochr i ochr, yr ymwthiad unfraich, a'r ymwthiad curo dwylo. Mae'r dand, neu'r gwthio i fyny Hindŵaidd, yn amrywiad arall sy'n gweithio'r craidd yn ddeinamig.[6]

Cyfeiriadau

golygu
  1. Lee, Bruce, 'Preliminaries' in The Tao of Jeet Kune Do, California: Ohara Publications, 1975, p.29
  2. Griffiths, Bruce a Jones, Dafydd Glyn. Geiriadur yr Academi (Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru, 1995 [argraffiad 2006]), t. 1073 [press-up].
  3. "Geiriadur y BBC". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-03-17. Cyrchwyd 2014-03-17.
  4. "Y Termiadur Addysg". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-05. Cyrchwyd 2014-03-17.
  5. 5.0 5.1 Contreras, Bret. Bodyweight Strength Training Anatomy (Champaign, Illinois, Human Kinetics, 2014), t. 38.
  6. Mujumdar D.C., The Encyclopedia of Indian Physical Culture, 1950, p.460, plate 131