Cystadleuaeth deledu Gymraeg yw Côr Cymru sy'n chwilio am y côr gorau yng Nghymru, sy'n cael ei ddarlledu bob dwy flynedd ar S4C.

Côr Cymru
Enghraifft o'r canlynolcyfres deledu Edit this on Wikidata
GwladCymru Edit this on Wikidata
Dechreuwyd2003 Edit this on Wikidata
GenreTeledu realiti Edit this on Wikidata

Yn y sioe gwelir corau yn cystadlu yn erbyn ei gilydd mewn rowndiau cynderfynol mewn pum categori gwahanol (corau merched, meibion, cymysg, ieuenctid (16-25 oed), a phlant). Mae enillwyr pob categori yn cystadlu ar gyfer y teitl “Côr Cymru” mewn rownd derfynol fyw.

Enillwyr

golygu

Enillwyr y wobr hyd yma yw:

Blwyddyn Côr
2003 Ysgol Gerdd Ceredigion
2005 Serendipity
2007 Cywair
2009 Ysgol Gerdd Ceredigion
2011 Cywair
2013 Côr Y Wiber
2015 Côr Heol y March
2017 Côr Merched Sir Gâr [1]
2019 Ysgol Gerdd Ceredigion
Gwobr yr arweinydd gorau
2007 - Mari Pritchard: Côr Ieuenctid Môn
2009 - Sioned James: Côrdydd, Caerdydd
2011 - Islwyn Evans, Cywair
2013 - Aled Phillips, Côr Meibion Rhosllannerchrugog (dynion)
2015 - Janet Jones, Parti Llwchwr
2017 - Eilir Owen Griffiths, CF1
2019 - Mari Pritchard, Côr Ieuenctid Môn
Gwobr dewis y gwylwyr
2011 - Cantata, Llanelli (merched)
2013 - Côr y Cym (ieuenctid)
2015 - Parti Llwchwr (merched)
2017 - Côr Ieuenctid Môn (ieuenctid)
2019 - Côr Sioe Môn
Côr Cymru Cynradd (ar gyfer corau ysgolion cynradd)
2015 - Ysgol Iolo Morganwg
2017 - Ysgol Pen Barras
2019 - Ysgol Teilo Sant

Côr y Flwyddyn Eurovision

golygu

Cyhoeddodd S4C ar 5 Ebrill 2017 y byddai enillydd Côr Cymru 2017 yn cynrychioli Cymru yng Nghôr y Flwyddyn Eurovision 2017.[2]

Cyfeiriadau

golygu
  1. Granger, Anthony (9 Ebrill 2017). "Côr Merched Sir Gâr to Eurovision Choir of the Year 2017". eurovoix.com. Eurovoix. Cyrchwyd 9 Ebrill 2017.
  2. Granger, Anthony (5 Ebrill 2017). "Wales: Selects for Eurovision Choir of the Year 2017 on April 9". eurovoix.com. Eurovoix. Cyrchwyd 5 Ebrill 2017.