Cú glas
Yn y gyfraith Wyddelig hynafol a chanoloesol, alltud o'i wlad ei hun yn byw yn nhiriogaeth un o túathe (llwythau) niferus Iwerddon oedd cú glas (Gwyddeleg, ynganer fel 'ci glas', ystyr: 'ci llwyd').
Yn yr Iwerddon gynnar, roedd y túath yn cael ei drefnu ar batrwm hierarchaidd, gyda phob gradd yn y gymdeithas yn perthyn i'w lle yn ôl y gyfraith. Roedd rhywun nad oedd yn aelod o'r túath yn "estronwr" (deorad) gyda breintiau cyfyngedig. Weithiau byddai alltud o deyrnas neu wlad arall yn aros yn nheyrnas y túath: cú glas oedd yr enw cyfreithiol am yr alltudion hyn.
"Alltud o wlad dramor" yw'r diffiniad o'r term cú glas a geir mewn glos i destun cyfraith sy'n dyddio o'r 9g. Mae'r gyfraith Wyddelig yn canolbwyntio ar statws cyfreithiol cú glas mewn canlyniad iddo briodi merch a oedd yn aelod o'r túatha. Doedd ganddo ddim statws ynddo ei hun; roedd hynny'n dibynnu ar "gwerth anrhydedd" (wynebwerth Cyfraith Hywel) ei wraig a'i theulu. Os oedd teulu ei wraig yn ei dderbyn roedd ganddo statws yn ei henw hi, sef hanner ei "gwerth anrhydedd" hi. Ni allai wneud cytundebau cyfreithiol ond yn ei henw hi a hi oedd yn gyfrifol amdano yn ôl y gyfraith. Pe baent yn cael plant, y wraig a'i theulu oedd yn gyfrifol drostynt.
Ffynhonnell
golygu- Fergus Kelly, A Guide to Early Irish Law (Dulyn, 1988; argraffiad newydd 2003), tud. 6.