C.P.D. Cei Connah

Clwb Pêl-droed Cymraeg
(Ailgyfeiriad o C.P.D. Gap Cei Connah)

Clwb pêl-droed o dref Cei Connah, Sir Y Fflint ydy Clwb Pêl-droed Cei Connah (Saesneg: Connah's Quay Football Club). Mae'r clwb yn chwarae yn Uwch Gynghrair Cymru, prif adran pêl-droed yng Nghymru.

C.P.D. Cei Connah
Enw llawn C.P.D. Cei Connah
Llysenw(au) Y Nomadiaid
Sefydlwyd 1946
Maes Stadiwm Glannau Dyfrdwy
Rheolwr Baner Yr Alban
Cynghrair Uwch Gynghrair Cymru
2023/24 2.

Ffurfiwyd y clwb ym 1946[1] fel Ieuenctid Cei Connah cyn mabwysiadu'r enw Nomadiaid Cei Connah ym 1952, ond ers 2008 mae'r clwb, am resymau nawdd, wedi ei adnabod fel gap Cei Connah.

Maent yn chwarae eu gemau cartref yn Stadiwm Glannau Dyfrdwy, maes sydd yn dal uchafswm o 1,500 o dorf gyda 500 o seddi.

Coch yw’r prif liw sy’n cynrychioli CPD Cei Connah. Llysenw y tîm yw’r ‘Nomads’

Sefydlyd Clwb Ieuenctid Cei Connah gan chwaraewr Everton a Chymru, T.G. Jones oedd yn frodor o'r dref[1]. Gyda tîm hŷn yn cael ei sefydlu ym 1948, ymunodd y clwb â Chynghrair Sir Y Fflint cyn newid ei enw i'r Nomadiaid ym 1952 ac ymuno â Chynghrair Cymru (Y Gogledd)[2]. Llwyddodd y clwb i ennill Cwpan Amatur Cymru ym 1952-53[1].

Ym 1974-75 roedd y Nomadiaid yn aelodau gwreiddiol o Gynghrair Clwyd[3] cyn sicrhau dyrchafiad i Gynghrair Undebol y Gogledd ac yna cael eu hethol yn un o glybiau gwreiddiol y Gynghrair Undebol[4].

Pan sefydlwyd Uwch Gynghrair Cymru ym 1992 cafodd y Nomadiaid eu dewis yn un o glybiau gwreiddiol y gynghrair.

Un o uchafbwyntiau'r clwb oedd curo Kilmarnock F.C. o Uwch Gynghrair yr Alban 0:2 ar 18 Gorffennaf 2019 yn rownd gyntaf Cynghrair Europa UEFA gan ennill 3:2 dros ddau gymal[5] gan fynd drwyddo i'r ail rownd yn erbyn F.K. Partizan Belgrâd o Serbia.

Record yn Ewrop

golygu
Tymor Cystadleuaeth Rownd Clwb Cymal 1af 2il Gymal Dros Ddau Gymal
2016–17 Cynghrair Europa UEFA Rhag 1   Stabæk 0-0 0–1 1–0
Rhag 2   FK Vojvodina 0-1 1-2 1–3
2017–18 Cynghrair Europa UEFA Rhag 1   HJK 1-0 0–3 1–3
2017–18 Cynghrair Europa UEFA Rhag 1   Shaktyor Soligorsk 1−3 0–2 1–5
2019–20 Cynghrair Europa UEFA 1Q   Kilmarnock 1–2 2–0 3–2
2Q   Partizan

Anrhydeddau

golygu
 
Michael Bakare; asgellwr chwith
  • Cwpan Cymru
    • Cyrraedd Rownd Derfynol: 1997-98
  • Cwpan Cynghrair Cymru
    • Enillwyr: 1995-96
  • Cwpan Amatur Cymru
    • Enillwyr: 1952-53
    • Cyrraedd Rownd Derfynol: 1950-51
  • Cwpan Her yr Alban
    • Cyrraedd Rownd Derfynol: 2018-19

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2 "The Nomads: history". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-06-16. Cyrchwyd 2014-08-29. Unknown parameter |published= ignored (help)
  2. "Welsh Football Data Archive: Welsh League (North) 1952-53". Unknown parameter |published= ignored (help)
  3. "Welsh Football Data Archive: Clwyd League 1974-75". Unknown parameter |published= ignored (help)
  4. "Welsh Football Data Archive: Cymru Alliance 1990-91". Unknown parameter |published= ignored (help)
  5. https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/49036893

Dolenni allanol

golygu
Uwch Gynghrair Cymru, 2021–2022

Aberystwyth | Caernarfon | Cei Connah | Derwyddon Cefn | Hwlffordd | Met Caerdydd |
Pen-y-Bont | Y Bala | Y Barri | Y Drenewydd | Y Fflint | Y Seintiau Newydd