C.P.D. Gwalia Unedig
Mae Clwb Pêl-droed Gwalia Unedig (Saesneg: Gwalia United Football Club) yn glwb pêl-droed i ferched yn ardal Caerdydd. Er symlrwydd, cyfeirir at y clwb yma (Cardiff City Ladies F.C.) wrth eu henw Saesneg yn unig rhag eu drysu â C.P.D. Merched Dinas Caerdydd sy'n chwarae yn Uwch Gynghrair Merched Cymru. Mae Gwalia Unedig n chwarae yng Nghynghrair Genedlaethol Merched FA Lloegr ond maent hefyd yn cystadlu yng nghystadleuaeth Cwpan Pêl-droed Merched Cymru a nhw yw'r tîm mwyaf llwyddiannus erioed yn y twrnamaint.
![]() | |
Enghraifft o: | tîm pêl-droed merched ![]() |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1975 ![]() |
Pencadlys | Caerdydd ![]() |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig ![]() |
Gwefan | http://www.cardiffcityladiesfc.co.uk ![]() |
![]() |
Hanes
golyguSefydlwyd y clwb ym 1975 fel Llanedeyrn Ladies Football Club ar ôl gêm elusennol leol. Yn 1981 newidiwyd yr enw i Cardiff Ladies Football Club, ac ym 1993 cysylltodd y clwb ag C.P.D. Inter Caerdydd (clwb nad sy'n bodoli bellach ond a oedd yn un o brif glybiau Cynghrair Cymru (dynion) yn yr 1990au) a dechrau chwarae yn Stadiwm Athletau Caerdydd. Yn 1997, daeth y cysylltiad ag Inter Caerdydd i ben a newidiodd y clwb ei enw i Glwb Sir Caerdydd wrth gysylltu â Chyngor Sir Caerdydd. Yn 2001 dechreuodd y clwb bod yn gysylltiedig â C.P.D. Dinas Caerdydd, y clwb dynion proffesiynol o'r un ddinas.
Ar ddechrau tymor 2003, fodd bynnag, torrodd y clwb ei gysylltiad â endyd gwrywaidd pan bleidleisiodd ei aelodau yn erbyn cynigion y clwb dynion. Daeth y clwb, unwaith eto, yn glwb annibynnol. Er eu bod yn cael cadw defnyddio'r enw 'Cardiff City' a lliwiau cit, mae'r arfbais yn wahanol iawn, ac nid ydyn nhw bellach yn defnyddio'r llysenw enwog 'Bluebirds' (er bod cyfryngau fel BBC Sport yn cyfeirio atynt o hyd), gan ymgorffori'r ddraig goch Cymru yn lle.
Yn 2006 enillodd Cardiff City Ladies F.C. Adran Ddeheuol Uwch Gynghrair Merched Cymdeithas Bêl-droed Lloegr (FA Women's Premier League Southern Division) a chawsant eu dyrchafu i'r "National Division" am y tro cyntaf. Wedi iddynt ddisgyn adran yn nhymor 2007–08, cafodd y clwb ei ddyrchafu nôl i'r National Division yn 2010–11.[1]
Cwpan Pêl-droed Merched Cymru
golyguOherwydd bod CCLCF wedi ennill Cwpan Pêl-droed Merched Cymru, mae'r clwb wedi cynrychioli Cymru yn Ewrop ac maent wedi cystadlu sawl gwaith yng Nghwpan Merched UEFA (Cynghrair y Pencampwyr Merched UEFA). Mae felly ganddynt hawl nad oes gan y tîm dynion sydd methu cystadlu yng nghystadleuaeth Cwpan Cymru bellach.
Cartref
golyguDydy'r clwb bellach ddim wedi ei lleoli yng Nghaerdydd. Maes cartef y clwb bellach yw, Canolfan Chwaraeon CCB yn Ystrad Mynach, Hengoed ger Caerffili sydd i'r gogledd o'r Brifddinas.[2]
Strwythur
golyguMae'r clwb yn cynnwys sawl haen ar gyfer chwaraewyr - tîm datblygu sy'n chwarae yn yr FA Midland's Development League; Dan-16 sy'n chwarae yng Nghynghrair Menywod a Merched De Cymru; Dan-14 a Dan-13 sydd ill dau hefyd yn chwarae yn y Gynghrair i Dde Cymru.[3]
Carfan Tîm Cyntaf
golygu- Diweddarwyd 15 July 2020.[4]
Nodyn: Diffinnir y baneri cenedlaethol o dan reolau FIFA. Gall y chwaraewyr, felly, fod o fwy nag un cenedl.
|
|
Anrhydeddau
golygu- Cwpan Pêl-droed Merched Cymru (11): 1995, 2003 yn flynyddol hyd at 2010, 2012, 2013, 2016 [5]
Record yn Ewrop - cystadlaethau UEFA
golygu- Cwpan Merched UEFA 2003–04: rownd ragbrofol gyntaf, 4ydd
- Cwpan Merched UEFA 2004–05: rownd ragbrofol gyntaf, 4ydd
- Cwpan Merched UEFA 2005–06: rownd ragbrofol gyntaf, 3ydd
- Cwpan Merched UEFA 2006–07: rownd ragbrofol gyntaf, 2il
- Cwpan Merched UEFA 2007–08: rownd ragbrofol gyntaf, 4ydd
- Cwpan Merched UEFA 2008–09: rownd ragbrofol gyntaf, 4ydd
- Cynghrair Pencampwyr Merched UEFA 2009–10: rownd rhagbrofol, 3ydd
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Cardiff City Ladies win promotion". BBC. 8 May 2011. Cyrchwyd 18 May 2011.
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-07-13. Cyrchwyd 2020-08-28.
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-08-07. Cyrchwyd 2020-08-28.
- ↑ "Women's First Team". Cardiff City Ladies. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-09-24. Cyrchwyd 12 July 2020.
- ↑ "Archived copy". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-05-08. Cyrchwyd 2016-04-21.CS1 maint: archived copy as title (link)
Dolenni allanol
golygu- Gwefan Swyddogol Archifwyd 2020-08-07 yn y Peiriant Wayback
- Facebook CPD Merched Dinas Caerdydd
- Twitter @cardiffcitylfc
- Gwefan Swyddogol y Lîg
- Cyfrif Twitter @theWPWL
[[Categori:Timau pêl-droed merched yng Nghymru]|Gwalia Unedig]