Cacen Jaffa
Cacennau maint bisgedi a gyflwynwyd yn y Deyrnas Unedig gan McVitie a Price ym 1927 yw Jaffa Cakes neu gacennau Jaffa. Daw eu henw o orennau Jaffa. Mae'r cacennau Jaffa mwyaf cyffredin yn rhai crwn, 54 mm (2⅛ modfedd) ar eu traws ac maent yn cynnwys tair haen: gwaelod o sbwng Genoa, haen o jam blas oren ac yna siocled dros honno.[1] Maent ar gael hefyd fel barrau neu mewn pecynnau bach, ac mewn maint mwy a llai.[2] Mae'r Jaffa Cakes gwreiddiol yn dod mewn pecynnau o 10, 20, 30 neu 40, ar ôl cael eu lleihau yn 2017 o 12 neu 24 y pecyn.[3]
Gan na chofrestrodd McVitie's yr enw "Jaffa Cakes" fel nod masnach, mae archfarchnadoedd a gwneuthurwyr bisgedi eraill wedi creu cacennau tebyg o'r un enw.[4] Roedd dosbarthiad y cynnyrch fel cacen neu fisgeden yn rhan o dribiwnlys TAW ym 1991, pan ddyfarnodd y llys o blaid McVitie's drwy ddweud y dylid ystyried cacen Jaffa yn gacen at ddibenion trethu.[5] Yn 2012, nhw oedd y gacen neu'r fisgeden a oedd yn gwerthu orau Deyrnas Unedig.
Cynhyrchu
golyguMae holl gacennau Jaffa McVitie's yn cael eu cynhyrchu yn y Deyrnas Unedig yn eu ffatri yn Stockport .[6] Mae'r ardal cynhyrchu cacennau Jaffa dros 4,000 m2 (1 erw) o faint ac mae'n cynnwys llinell gynhyrchu sydd dros filltir 1.6 km (1 filltir). [4] Oherwydd natur y cynnyrch a'i sawl haen wahanol, dyfeisiwyd cyflymyddion caledwedd arbennig i alluogi cyfrifiaduron i archwilio 20 cacen yr eiliad, sy'n digwydd o dan bedwar golau cymesur. [7]
Amrywiadau
golyguEr mai oren yw blas arferol cacennau Jaffa, mae blasau eraill wedi bod ar gael am gyfnod cyfyngedig, megis blas lemon a leim,[8] mefus[9] a chyrens duon . [10] Lansiodd McVities gacennau Jaffa blas pinafal am gyfnod yn gynnar yn 2020. [11]
Trethi
golyguYn y Deyrnas Unedig, mae treth ar werth yn daladwy ar fisgedi â gorchudd siocled, ond nid ar gacennau â gorchudd siocled. [12] Buodd McVities yn amddiffyn dosbarthiad eu Jaffa Cakes fel cacennau mewn tribiwnlys TAW ym 1991, yn erbyn y dyfarniad mai bisgedi oeddynt oherwydd eu maint a'u siâp a'r ffaith y cân nhw eu bwyta yn lle bisgedi yn aml.[13] Mynnodd McVities mai cacen oedd y cynnyrch, a dywedir i'r cwmni ddod â chacen Jaffa enfawr i'r llys i wneud ei bwynt. Aseswyd y cynnyrch yn ôl y meini prawf canlynol: [14] [15]
- Ystyriwyd mai gweddol ddibwys oedd enw'r cynnyrch.
- Ystyriwyd bod y cynhwysion yn debyg i rai cacen, a oedd yn creu cytew tenau tebyg i gacen yn hytrach na thoes trwchus bisgedi.
- Ystyriwyd mai gwead teisen sbwng oedd ganddo.
- Mae'r cynnyrch yn caledu wrth fynd yn hen, yn union fel cacen.
- Sbwng yw rhan sylweddol cacen Jaffa, o ran ei swmp a'i gwead.
- O ran maint, mae'r gacen Jaffa yn debycach i fisgeden na chacen.
- Roedd y cynnyrch fel arfer yn cael ei werthu ochr yn ochr â bisgedi eraill, yn hytrach na gyda chacennau.
- Hysbysebir y cynnyrch fel byrbryd ac mae'n cael ei fwyta gyda'r bysedd fel bisgeden, yn hytrach na gyda fforc fel teisen. Roedd y tribiwnlys hefyd o'r farn y byddai plant yn eu bwyta o fewn ychydig gnoadau, yn union fel melysion.
Dyfarnodd y llys o blaid McVitie's y dylid ystyried cacennau Jaffa yn gacennau, sydd yna'n golygu na thelir TAW ar gacennau Jaffa yn y Deyrnas Unedig.[12] [16]
Mae Comisiynwyr Cyllid Iwerddon yn ystyried cacennau Jaffa yn gacennau hefyd am eu bod yn cynnwys lleithder yn fwy na 12%. O ganlyniad, codir y gyfradd TAW is arnynt (13.5% yn 2016).[17]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Labelling rules". Food Standards Agency. 9 April 2008. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 20 July 2008.
- ↑ "Jaffa Cake's lemon squeezy bar". Thegrocer.co.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 29 September 2011. Cyrchwyd 25 August 2010.
- ↑ "Jaffa Cakes packet size reduced in latest 'shrinkflation' move". The Guardian. Cyrchwyd 29 May 2020.
- ↑ 4.0 4.1 Harry Wallop (6 May 2012). "Jaffa Cakes - definitely not biscuits - prepare to take on imitators". The Daily Telegraph. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 25 August 2012. Cyrchwyd 3 January 2013.
- ↑ "VAT Tribunal case LON/91/0160 (United Biscuits)". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 10 February 2019. Cyrchwyd 9 February 2019.
- ↑ "The factory where life is sweet". Manchester Evening News. 17 April 2012. Cyrchwyd 24 July 2013.
- ↑ Mark Graves; Bruce Batchelor (2003). Machine Vision for the Inspection of Natural Products. Springer Science & Business Media. t. 403. ISBN 978-1-85233-525-0.
- ↑ "McVitie's Jaffa Cakes Lemon and Lime". Snackspot.org.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 26 July 2011. Cyrchwyd 22 June 2010.
- ↑ "McVitie's launches limited edition Strawberry-flavoured Jaffa Cakes". Talkingretail.com. 27 April 2009. Cyrchwyd 22 June 2010.
- ↑ "Jaffa Cakeover". The Daily Record. 12 December 2005. Cyrchwyd 22 June 2010.
- ↑ Abernethy, Laura (27 January 2020). "McVitie's launches new pineapple flavour Jaffa Cakes". Metro. Cyrchwyd 7 March 2020.
- ↑ 12.0 12.1 Lee, Natalie (2011). Revenue Law Principles and Practice. A&C Black. t. 1009. ISBN 9781847667663.
- ↑ "What you do – and don't – pay VAT on". Which? Magazine. 24 June 2010. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 5 September 2012. Cyrchwyd 27 September 2012.
- ↑ "United Kingdom VAT & Duties Tribunals Decisions – Torq Ltd v Revenue and Customs [2005]". British and Irish Legal Information Institute. Cyrchwyd 27 September 2012.
- ↑ "Excepted items: Confectionery: The bounds of confectionery, sweets, chocolates, chocolate biscuits, cakes and biscuits: The borderline between cakes and biscuits". hmrc.gov.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 17 April 2013. Cyrchwyd 28 April 2013.
- ↑ "The borderline between cakes and biscuits". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 17 April 2013. Cyrchwyd 28 April 2013.
- ↑ "Archived copy". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 7 January 2018. Cyrchwyd 7 January 2018.CS1 maint: archived copy as title (link)