Cadwallon ap Cadfan
Roedd Cadwallon ap Cadfan (bu farw 633) yn frenin Gwynedd o tua 625 hyd ei farw.
Cadwallon ap Cadfan | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 591 ![]() Teyrnas Gwynedd ![]() |
Bu farw | 634 ![]() Brwydr Hexham ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | brenin neu frenhines ![]() |
Swydd | Teyrnas Gwynedd ![]() |
Tad | Cadfan ap Iago ![]() |
Priod | merch Pybba o Mersia ![]() |
Plant | Cadwaladr ![]() |
Llinach | Teyrnas Gwynedd ![]() |
Hanes
golyguEtifeddodd Cadwallon deyrnas Gwynedd ar farwolaeth ei dad, Cadfan ap Iago. Ymosododd Edwin o Deira (Northumbria heddiw) ar Wynedd gan gyrraedd cyn belled ag Ynys Môn gan orfodi Cadwallon i ffoi i Ynys Lannog ac yna i Iwerddon. Yn ôl yr Annales Cambriae digwyddodd hyn yn 629. Yn ôl Sieffre o Fynwy yr oedd Edwin flynyddoedd ynghynt wedi cael lloches gan dad Cadwallon, Cadfan, ac mae'r Trioedd Cymreig yn disgrifio Edwin fel "un o dri gormeswr ar Fôn a fagwyd ar yr ynys".
Daeth Cadwallon i gytundeb â Penda, brenin Mersia, ac ymosododd y ddau ar Northumbria. Lladdwyd Edwin mewn brwydr ym Meicen (neu Meigen: "Heathfield" yn Saesneg, sef Hatfield Chase yn Swydd Efrog yn ôl pob tebyg) yn 632.[1] Dyma'r cofnod cyntaf i Gymry a Saeson ymuno mewn cynghrair fel hyn.
Am gyfnod yr oedd Cadwallon yn feistr ar Northumbria, ond y flwyddyn ganlynol lladdwyd ef ym Mrwydr Hexham yn erbyn Oswald, brenin Brynaich.
Olynwyd Cadwallon gan ei fab, Cadwaladr ('Cadwaladr Fendigaid').
Moliant Cadwallon ac Afan Ferddig
golyguCredir fod y gerdd Moliant Cadwallon yn perthyn i gyfnod Cadwallon ei hun. Mae'n bosibl mai Afan Ferddig a'i cyfansoddodd, er nad oes modd profi hynny. Yn ôl y gerdd, ymestynnai awdurdod Cadwallon o Fôn i Fynwy (Porth Sgiwed), a chyfeirir ato yn ymosod ar diriogaeth Elfed.
Ceir cyfeiriad at Afan Ferddig mewn un o'r Trioedd: "Afan Ferddig bardd Cadwallon mab Cadfan,"[2] sy'n awgrymu mai ef oedd bardd llys Cadwallon.
Ffynhonnellau
golyguCyfeirir at Cadwallon yn Brut y Tywysogion wrth enwi ei fab, 'Cadwalader Fendigaid, mab Cadwallon, mab Cadfan, brenin y Brythoniaid'.[3]
Rhagflaenydd : | Brenhinoedd Gwynedd | Olynydd : |
Llyfryddiaeth
golygu- Y Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940 (Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion)
- R. Geraint Gruffydd (gol.), 'Canu Cadwallon ap Cadfan', yn Astudiaethau ar yr Hengerdd, gol. Rachel Bromwich ac R. Brinley Jones (Gwasg Prifysgol Cymru, 1978), tt. 25-43.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Hanes Cymru gan John Davies, Llyfrau Penguin, 1990; tudalen 62.
- ↑ Rachel Bromwich (gol.), Trioedd Ynys Prydain (Caerdydd, 1978).
- ↑ Caradoc, of Llancarvan; Williams, John (1860). Brut y tywysogion : or, The chronicle of the princes. PIMS - University of Toronto. London : Longman, Green, Longman and Roberts. tt. 2–3.