Dull o ddysgu cadwyni ymddygiad yw cadwyno ymlaen. Mae'n dechrau gyda dysgwr yn cael ei annog a'i ddysgu i berfformio'r ymddygiad cyntaf yn y dasg sydd wedi ei dadansoddi. Mae'r hyfforddwr yn cwblhau'r camau sy'n weddill yn y gadwyn. Pan ddangosa'r dysgwr ei fod yn gallu perfformio cam cyntaf y gadwyn yn gymwys, caiff ei ddysgu wedyn i berfformio'r ddau gam cyntaf, gyda'r hyfforddwr yn cwblhau'r gadwyn. Parheir â'r dilyniant hwn tan i'r dysgwr gwblhau'r gadwyn gyfan yn annibynnol.[1]

Cadwyno ymlaen

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Termau Iaith Uwch". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-07-29. Cyrchwyd 2017-03-29.