Caer Caradog, Cerrigydrudion

Bryngaer a saif filltir i'r de-ddwyrain o bentref Cerrigydrudion, yn ne sir Conwy, gogledd Cymru, yw Caer Caradog. cyfeiriad grid SH968479. Cofrestrwyd y fryngaer hon gan Cadw a chaiff ei hadnabod gyda'r rhif SAM unigryw: DE011.[1] Ceir tua 300 o fryngaerau ar restr CADW o henebion, er bod archaeolegwyr yn nodi bod oddeutu 570 ohonyn nhw i gyd yng Nghymru.

Caer Caradog
Mathbryngaer sy'n rhannol ddilyn tirffurf y graig Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirConwy Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.0186°N 3.5395°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH96824792 Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethheneb gofrestredig, Henebion Cenedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Manylion
Dynodwr CadwDE011 Edit this on Wikidata

Mae'n gaer o gyfnod Oes yr Haearn a amgylchynir gan un mur yn unig. Mae'r cloddio rhannol a fu ar y safle yn dangos i glawdd syml heb ffos gael ei godi yn y lle cyntaf. Yn ddiweddarach codwyd mur mwy sylweddol ar ben yr hen un gyda ffos wedi'i thorri i mewn i graig y bryn o'i flaen. Ni chafwyd unrhyw dystiolaeth o waith pren neu grochenwaith yn y cloddio ac felly mae'n anodd cynnig dyddiadau pendant i adeiladwaith y gaer. Roedd hi'n sefyll yn nhiriogaeth llwyth Celtaidd yr Ordovices.

Mae rhai ymchwilwyr wedi ceisio uniaethu'r fryngaer â Caradog (Caratacus), arweinydd y Brythoniaid yn erbyn y Rhufeiniaid yn y ganrif 1af OC, ond mae hynny'n bur annhebygol, er bod enw'r gaer yn awgrymiadol iawn.

Gwyddys fod Caradog, eisoes ar ffo o wlad y Trinovantes (de Lloegr heddiw) a'i ddilynwyr wedi ffoi o diriogaeth y Silwriaid yn ne-ddwyrain Cymru i diriogaeth yr Ordovices ar ddiwedd y 40au. Yno cafodd ei orfodi i ymladd â'r Rhufeiniaid mewn brwydr agored yn y flwyddyn 50. Mae'r hanesydd Rhufeinig Tacitus yn rhoi disgrifiad diddorol o'r frwydr rhwng llu Caradog a'r lleng Rufeinig dan Publius Ostorius Scapula, ond yn anffodus ni ellir ei lleoli ar fap heddiw. Ar fryn bu'r ymladd, ond yn ôl Tacitus amddiffynwaith a godwyd ar frys, dros dro, oedd yno yn hytrach na chaer reolaidd. Dihangodd Caradog i'r gogledd ar ôl y frwydr.

Mae'r hynafiethydd Humphrey Llwyd yn disgrifio'r gaer yn ei gyfrol The Breuiary of Britayne (1573); dyma'r disgrifiad cyntaf ar glawr.

Lloches i gartrefi a gwersyllfeydd milwrol oedd eu pwrpas felly, cyn y goresgyniad Rhufeinig; a chafodd cryn lawer ohonynh nhw eu hatgyfnerthu a'u defnyddio, yng nghyfnod y Rhufeiniaid; er enghraifft Dinorben yng ngogledd Cymru. Oes aur bryngaerau gwledydd Prydain oedd rhwng 200 CC ac OC 43.

ffynonellau

golygu
  • Christopher Houlder, Wales: An Archaeological Guide (Llundain, 1978)
  • I. A. Richmond, 'Roman Wales', yn Prehistoric and Early Wales (Llundain, 1965)

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu