Caerdroea

(Ailgyfeiriad o Caer Droea)

Dinas yn Asia Leiaf (Twrci heddiw) oedd Caerdroea (Hen Roeg: Τροία, Troia, hefyd Ίλιον, Ilion; Lladin: Trōia neu Īlium, Hetheg: Wilusa neu Truwisa). Hefyd: 'Caerdroia', 'Caer Droea', 'Caer Droia'. Y ffynhonnell fwyaf adnabyddus ar gyfer hanes y ddinas yw'r Iliad, a briodolir i Homeros, sy'n adrodd hanes rhan o Ryfel Caerdroea, pan mae byddin Roegaidd yn gwarchae ar y ddinas. Yn ddiweddarach, adeiladwyd dinas Rufeinig Ilium ar y safle yn nheyrnasiad yr ymerawdwr Augustus.

Caerdroea
Mathsafle archaeolegol Edit this on Wikidata
Jer-Trouaie.ogg Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolmytholeg Roeg Edit this on Wikidata
LleoliadHisarlik Edit this on Wikidata
SirÇanakkale, Çanakkale Edit this on Wikidata
GwladBaner Twrci Twrci
Arwynebedd158 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau39.9575°N 26.2389°E Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethSafle Treftadaeth y Byd Edit this on Wikidata
Manylion
Mynedfa i Troia II

Heddiw, mae'n enw safle archaeolegol, Twrceg Truva, yn Hisarlık yn Anatolia, ger arfordir Talaith Çanakkale yng ngogledd-orllewin Twrci, i'r de-orllewin o'r Dardanelles a gerllaw Mynydd Ida.

Yn y 1870au, bu'r archaeolegydd Almaenig Heinrich Schliemann yn cloddio yma, a darganfu olion nifer o ddinasoedd o wahanol gyfnodau ar y safle, un ar ben y llall. Credai ef mai'r ddinas a enwyd yn Troia VII oedd y ddinas yn yr Iliad.

Enwyd y safle yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO yn 1998.

Cysylltiadau Cymreig golygu

Er nad oes unrhyw gysylltiad uniongyrchol rhwng y Gaerdroea hanesyddol a Chymru, diolch i ddylanwad gwaith Sieffre o Fynwy mae ganddi le pwysig yn hanes traddodiadol Cymru. Yn ôl Sieffre, o Gaerdroea y daeth yr arwr Brutus a'i ddilynwyr i Ynys Brydain. Yn yr Oesoedd Canol Diweddar, arweiniodd hynny at y gred fod y Cymry yn etifeddion Caerdroea a cheir sawl cyfeiriad ati yn y Canu Darogan. Fel yn achos sawl diwylliant Ewropeaidd arall yn yr Oesoedd Canol, daeth Elen o Gaerdroea yn symbol o harddwch benywaidd yng ngwaith y beirdd, yn enwedig yn achos Beirdd yr Uchelwyr.

Mae 'Caerdroea' (hefyd 'Caer Droea' a 'Caer Dro') yn enw Cymraeg am fath o labrinth gwerinol hefyd. Ceir cyfeiriadau o'r 16g at fugeiliaid yn dawnsio mewn 'caerdroeau' ar y bryniau: camddeall ystyr yr elfen troea, gan ei derbyn fel ffurf ar y gair 'tro'/'troi' sy'n gyfrifol am yr enw, mae'n debyg.[1]

Defnyddiwyd y ffurf "Caerdroia" yn ddiweddar ar gyfres o ffilmiau, llyfrau a thapiau sain Dr Who (BBC Cymru).

Cyfeiriadau golygu

  1. "Caer Droea, Caer Dro" o dan brifair caer. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 21 Ionawr 2021.