Caliban (lloeren)
Mae cylchdro Caliban tua 7,200,000 km oddi wrth Wranws ac mae ganddi dryfesur o ryw 80 km.
Math o gyfrwng | lleuad o'r blaned Wranws, irregular moon |
---|---|
Màs | 300 |
Dyddiad darganfod | 6 Medi 1997 |
Echreiddiad orbital | 0.082347 |
Radiws | 36 cilometr |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae ei chylchdro yn wrthdroadwyol a chanddi ogwyddiad eithafol.
Mae Caliban yn gymeriad yn y ddrama Y Dymestl gan William Shakespeare. Yn y ddrama honno, caethwas hyll i'r dewin Prospero yw Caliban, a mab i'r wrach Sycorax.
Cafodd y lloeren Caliban ei darganfod gan Brett Gladman, Phil Nicholson, Joseph Burns, a JJ Kavelaars gyda'r Telesgop Hale, Arsyllfa Palomar, ym 1997.
Fel lloerennau afreolaidd eraill, credir mai asteroid sydd wedi cael ei ddal gan ddwyster Wranws yw Caliban. Credir hefyd i gyfansoddiad y lloeren fod yn gymysgedd o greigiau ac iâ. Mae gan y lloeren liw coch anarferol sy'n arwyddocau cysylltiad hanesyddol gyda Gwregys Kuiper.