Camel
Camelod | |
---|---|
![]() | |
Dromedari (Camelus dromedarius) | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Artiodactyla |
Teulu: | Camelidae |
Genws: | Camelus Linnaeus, 1758 |
Rhywogaethau | |
Camelus bactrianus |
Carnolyn mawr cilgnöol â choesau main, hir, gyda chrwb neu ddau ar ei gefn yw'r camel. Mae’r camel wedi’i ymaddasu’n arbennig i fyw mewn diffeithdiroedd yn ei allu i fyw ar blanhigion dreiniog gwydn, yn ei allu i gadw dŵr ym meinwe’r corff, ac yn ei draed gyda gwadnau llydan trwchus a chaled a charnau bychain ar flaenau bysedd y traed. Gweithreda'r crwb fel storfa braster a gall oroesi am gyfnodau hiri heb fwyd na diod. Mae'r dromedari (camel uncrwb, camel rhedeg) yn byw yn Arabia a gogledd Affrica; mae'r camel deugrwb yn byw yng nghanolbarth Asia.