Canfasio yw mynd ati yn systematig i ddod i gyswllt uniongyrchol ag unigolion, yn aml yn ystod ymgyrchoedd gwleidyddol. Mae gweithgareddau canfasio yn cael eu cynnal at nifer o ddibenion eraill, gan gynnwys codi arian ar lawr gwlad, ymwybyddiaeth gymunedol, ymgyrchoedd aelodaeth, ac yn y blaen.[1] Bydd ymgyrchwyr yn curo ar ddrysau i gysylltu â pherson yn bersonol. Fe'i defnyddir gan bleidiau gwleidyddol a grwpiau materol i nodi cefnogwyr, perswadio'r rhai sydd heb benderfynu, ychwanegu pleidleiswyr i restr pleidleiswyr drwy gofrestru pleidleiswyr, ac mae'n ganolog i ddenu'r bleidlais.

Daeth canfasio gwleidyddol yn offeryn canolog ar gyfer ymgyrchoedd etholiadol yng ngwledydd Prydain, ac mae wedi aros yn weithgaredd craidd sy'n cael ei gyfawni gan filoedd o wirfoddolwyr cyn pob etholiad, ac mewn nifer o wladwriaethau sydd wedi tarddu o'i system wleidyddol. Mae'n llai cyffredin mewn ymgyrchoedd democrataidd Cyfandir Ewrop a Dwyrain Asia.

Gall canfasio hefyd gyfeirio at y modd y mae'r heddlu yn mynd ymweld â chartrefi mewn cymdogaeth yn ystod ymchwiliad. Mae canfasio yn y gymdogaeth yn ddull systematig o gyfweld â thrigolion, masnachwyr ac eraill sydd yng nghyffiniau trosedd ac a allai fod ganddynt wybodaeth ddefnyddiol.[2]

Tarddiad y term yw'r weithred o hidlo trwy ysgwyd rhywbeth mewn cynfas, sef trafod yn drylwyr.[3]

Ceir enghreifftiau cynnar o ganfasio yn etholiadau Gweriniaeth y Rhufeiniaid. Yn yr ymgyrchoedd hynny byddai ymgeiswyr yn ysgwyd llaw pob pleidleisiwr cymwys yn y Fforwm. Yn sibrwd yng nghlust rhai ymgeiswyr byddai enwadur, sef caethwas a oedd wedi'i hyfforddi i gofio enwau pob pleidleisiwr, fel y gallai'r ymgeisydd eu cyfarch yn ôl eu henwau i gyd.[4]

Cyfeiriadau golygu

  1. James-Harvill, Jordan. "What is Canvassing?" (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-07-03. Cyrchwyd 2017-06-30.
  2. Swanson, Chamelin, Territo, Charles R., Neil C., Leonard. Criminal Investigation, 8/e. McGraw Hill.CS1 maint: multiple names: authors list (link)
  3.   Chisholm, Hugh, gol. (1911). "Canvass". Encyclopædia Britannica (arg. 11th). Cambridge University Press.
  4. Vishnia, Rachel Feig (12 March 2012). Roman Elections in the Age of Cicero: Society, Government, and Voting. Routledge. t. 112. ISBN 978-1-136-47871-0.