Capel Bethesda, yr Wyddgrug

Capel y Methodistiaid Calfinaidd yn Yr Wyddgrug; Gradd II*

Capel y Methodistiaid Calfinaidd yn Yr Wyddgrug yw Capel Bethesda.

Capel Bethesda
Matheglwys, capel Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlLlyn Bethesda Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadYr Wyddgrug Edit this on Wikidata
SirYr Wyddgrug Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr111.2 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.1656°N 3.14306°W Edit this on Wikidata
Cod postCH7 1NZ, CH7 1UL Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd II* Edit this on Wikidata
Manylion

Hanes golygu

Sefydlwyd yr eglwys yn ardal Ponterwyl yn ail hanner y 18g gan gyfarfod ar y cychwyn yn nhŷ gwraig o'r enw Sally Powell. Wrth i'r eglwys dyfu fe symudwyd i sgubor yn ardal Glanrafon o'r dref. Prynwyd adeilad yn y man ac yn sgil twf yr eglwys yn nechrau'r 19g yng nghyfnod arweinyddiaeth Thomas Jones (Dinbych wedi hynny), fe adeiladwyd y capel cyntaf 1819 ar y safle presennol ar Stryd Newydd. Gosodwyd carreg sylfaen y capel presennol ar Fehefin 25ain 1863 a'i agor ymhen y flwyddyn, gan chwalu'r hen un a'i ailadeiladu yn helaethach ar ffurf clasurol gyda cholofnau Corinthaidd yn cynnal y porth yn y blaen a lle i tua 800 addoli. Cododd yr angen am ailadeiladu yn sgil effaith [diwygiad 1859] yn yr ardal pryd y gwelwyd ychwnegu 250 o aelodau at yr eglwysi.

 
Awyrlun o'r capel; 2023

Roedd Robert Ellis a dderbyniwyd at y rhai gafodd eu hordeinio gyntaf gan y Methodistiaid Calfinaidd ym 1811 ymhlith yr arweinyddion cyntaf. Roedd y bardd Jane Ellis, y ferch gyntaf i weld cyhoeddi ei gwaith yn y Gymraeg, yn aelod yn yr eglwys.

Daeth John Roberts (Minimus) yn aelod yma ynghanol y 19eg ganrif gan barhau yn ei swyddogaeth fel ysgrifennydd cyntaf a sefydlydd cenhadaeth dramor y Methodistiaid Calfinaidd. Bu'n gyd-olygydd Y Drysorfa gyda Roger Edwards. Bu Roger Edwards yn weinidog yma a dyma'r capel a fynychwyd gan Daniel Owen. Ymhlith Gweinidogion yr 20g mae John Owen, G. Parry Williams, W. Ffowc Evans, Gruffydd Owen, R. Gwilym Hughes, J. Eirian Davies, E. Elfyn Richards a Gareth Edwards.

Bu'r eglwys dan arweiniad Huw a Nan Powell-Davies yn ystod yr 21ain ganrif.

Llyfryddiaeth golygu

  • Owen, D. Huw, Capeli Cymru (Talybont: Y Lolfa, 2005), tt.199–200