Capel Garmon (Gwynedd)
Saif murddyn a elwir yn Gapel Garmon tua chanllath i'r gorllewin o Ffynnon Garmon ar lethrau dwyreiniol Moel Smytho. Er i'r llecyn fod bellach ym mhlwyf Betws Garmon, Gwynedd, arferai fod ym mhlwyf Llanwnda, ac eglwys Betws Garmon yn weddol agos yr ochr arall i ffin Uwchgwyrfai. Dichon bod hyn yn awgrymu i'r cysylltiad ag enw Sant Garmon fynd yn ôl i gyfnod cyn sefydlogi ffiniau'r plwyfi, a ddigwyddodd, medd rhai, yn ystod y 13g.
Er nad oes sicrwydd bod yr adeilad wedi bod â diben crefyddol, mae'r enw traddodiadol a'r agosrwydd at ffynnon rinweddol os nad sanctaidd yn awgrymu defnydd o'r fath. Un drws yn unig sydd iddo a'i hyd yw 23' a'i led 12.5'.[1] Roedd haneswyr eglwysi Eryri, Harold Hughes a H.L. North yn ystyried yr adeilad yn gapel o ryw fath, a'i ddyddio i'r 16g gynnar.[2] Mae aliniad ac ansawdd da y gwaith adeiladu'n tueddu i gefnogi barn Hughes a North, ond mae Comisiwn Henebion Cymru wedi dewis ei gategoreiddio fel 'adeilad seciwlar'. Nodir yn ei restr o adeiladau ei fod yn gorwedd ar aliniad Gorllewin - Dwyrain, ar blatfform wedi ei lefelu ar ochr y bryn, gyda waliau tua 3 tr. o drwch. mae'r adeilad yn mesur 23 tr. wrth 12tr. 6 modfedd.[3]