Caradoc Evans
awdur
Nofelydd a dramodydd yn yr iaith Saesneg oedd David "Caradoc" Evans (31 Rhagfyr 1878 - 11 Ionawr 1945). Roedd yn enedigol o bentref Llanfihangel-ar-Arth, Sir Gaerfyrddin a chafodd ei fagu yn Rhydlewis, Ceredigion. David Evans oedd ei enw bedydd ond ysgrifennai wrth yr enw Caradoc Evans. Bu'n ffigwr hynod ddadleuol a gyhuddwyd gan lawer o bardduo a dilorni'r Cymry Cymraeg a'u diwylliant, er bod beirniaid mwy diweddar yn tueddu i fod yn fwy gwerthfawrogol o'i waith fel llenyddiaeth.
Caradoc Evans | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 31 Rhagfyr 1878 ![]() Llanfihangel-ar-Arth ![]() |
Bu farw | 11 Ionawr 1945 ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | ysgrifennwr ![]() |
Priod | Oliver Sandys ![]() |
Llyfryddiaeth Golygu
- My People (1915)
- Capel Sion
- My Neighbours (1919)
- Taffy (1923)
- Nothing to Pay (1930)
- Wasps (1933)
- Pilgrims in a Foreign Land (1942)
- Morgan Bible (1943)
- The Earth Gives All and Takes All (1946)