Caradog Fynach
Ganwyd Caradog Fynach i deulu da yn Sir Frycheiniog yn ystod 11g (bu f. 1124), gan dderbyn addysg leyg, a hyfforddiant canu'r delyn.
Caradog Fynach | |
---|---|
Ganwyd | 11 g Teyrnas Brycheiniog |
Bu farw | 13 Ebrill 1124 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | mynach |
Oherwydd ei dymer a'i gyrhaeddiadau arbennig, bu'n gwasanaethu yn llys brenin y Deheubarth, Rhys ap Tewdwr (bu f. 1093). Roedd yn ŵr poblogaidd gyda'r brenin hwn, ond collodd ffafr Rhys oherwydd iddo golli dau filgi gwerthfawr a oedd dan ei ofal. O ganlyniad i fygythion dig y brenin, rhaid oedd gadael y llys a dewis crefydd y bywyd mynachaidd. Cafodd ei dderbyn gan yr esgob Herwald yn Llandaf cyn sefydlu cartref mynachaidd yn eglwys Llangenydd, penrhyn Gwyr. Yn ddiweddarach, fodd bynnag, symudodd i Dy Ddewi, ac wedi cael ei ordeinio yn offeiriad yno, aeth ar y for-ynys Barri yng ngogledd Penfro. Cyfnod cythryblus oedd hwn yn hanes Ty Ddewi oherwydd yr ymosodiadau'r Sgandinafiaid, ac er diogelwch, gyrrodd esgob Ty Ddewi ef i gell meudwy yn eglwys Sant Ismael yn Rhos yn ne sir Benfro. Bu'n byw yno am weddill ei oes hyd y gwyddom, heblaw am un taith pererin i Ynys Enlli, er nad oes sicrwydd mai ef oedd y Caradog dysgedig hwnnw a ymwelodd ag Elgar feudwy ar yr ynys oddeutu'r un cyfnod. Pan oedd Harri I yn Frenin Lloegr, daeth yr ymfudwyr Fflemingaidd i ran ddeheuol sir Benfro, a gorfodi Cymry Rhos oddiyno. Un o'r cymydogion newydd oedd Tancard o Hwlffordd, ond nid oedd y gyfeillach rhwng Caradog ac ynteu yn rhy gyfforddus. Bu farw Caradog yn 1124 ac fe'i claddwyd yn Nhy Ddewi. Am gyfnod maith wedyn roedd croes a chapel ar draeth Newgale yn dynodi'r fan lle bu'r rhai oeddent yn cludo'r corff aros a gorffwys, ar y siwrnai i Dy Ddewi.
Ysgrifennwyd hanes Caradog gan Gerallt Gymro, ond nid yw hwnnw ar gael bellach, ond gellir darllen am ei sylwedd yn Nova Legenda Anglie (arg.1901), i, 174-6. Aeth Gerallt i Rufain gyda'r hanes gan ei ddarllen gerbron Innocent III, yn deisyfu canoneiddiad ei gydwladwr. Llwyddodd i'r graddau y rhoddodd y pab lythyr yn dewis abadau Ty-gwyn-ar-Daf, Llandudoch, ac Ystrad Fflur fel comisiwn i wneud ymchwiliad i'r achos (8 Mai, 1200). Daeth dim llwyddiant i Gerallt na chydnabyddiaeth i Caradog druan gan nad oedd y penaethiaid eglwysig yn dymuno caniatau i Gerallt fod yn Esgob Ty Ddewi. Mae eglwys Lawrenny yn Aberdaugleddau wedi ei chyflwyno i Caradog, ar arferai fod ffynnon gysegredig iddo gerllaw Haroldston.
Ffynonellau
golygu- The Lives of the British Saints, ii, 75-8;
- Liber Landavensis. The Text of the Book of Llan Dâv, 1893, 2, 279.