Carnatic
Rhanbarth o Dde India ydy'r Carnatic, neu'r Arfordir Carnatig, sy'n gorwedd rhwng y Ghats Dwyreiniol ac Arfordir Coromandel, yn nhaleithau cyfoes India Tamil Nadu, de-ddwyrain Karnataka a de Andhra Pradesh.
Hannes cynnar
golyguYn ôl y cofnodion cynharaf sy'n bodoli, roedd gwlad a adnabuwyd wrth yr enw Carnatic yn cael ei rhannu rhwng teyrnasoedd y Pandya a'r Chola, a oedd yn ffurfio tair teyrnas Indiaidd deheuol ynghyd â theyrnas Chera neu Kerala. Roedd tiriogaeth Teyrnas Pandya yn cyfateb yn fras i ranbarthau Madura a Tinnevelly heddiw; tra bod teyrnas y Chola yn ymestyn i lawr Arfordir Coromandel o Nellore i Pudukottai, gyda'r afon Pennar yn dynodi ei ffin i'r gogledd, a Vellaru Ddeheuol yn dynodi ei ffin i'r de.
Ffynonellau
golygu- Encyclopaedia Britannica, 1911