Cartago, Costa Rica
(Ailgyfeiriwyd o Cartago (dinas))
Dinas yng nghanolbarth Costa Rica a phrifddinas talaith Cartago yw Cartago. Hi yw ail ddinas Costa Rica o ran poblogaeth, gyda 141,524 o drigolion yn 2003.
![]() Ein Harglwyddes yr Angylion Basilica | |
![]() | |
Math | dinas ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 22,775 ![]() |
Sefydlwyd | |
Gefeilldref/i | Toluca ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Cartago Province ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 4.04 km² ![]() |
Uwch y môr | 1,435 ±1 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 9.864211°N 83.920442°W ![]() |
![]() | |
Sefydlwyd y ddinas gan y Sbaenwr Juan Vasquez de Coronado yn 1563. Roedd y sefydliad gwreiddiol rhwng afon Coris ac afon Purires, rai cilomedrau i'r de-orllewin o'r ddinas bresennol. Cartago oedd prifddinas Costa Rica yn ystod cyfnod Ymerodraeth Sbaen. Mae'r eglwys gaderiol yn un o adeiladau hanesyddol pwysicaf Costa Rica.