Cassivelaunus
Brenin Brythonig yn 1 CC fu'n ymladd yn erbyn Iŵl Cesar oedd Cassivelaunus neu Cassivellaunus.
Cassivelaunus | |
---|---|
Ganwyd | 1 g CC Lloegr |
Bu farw | c. 30 CC Efrog |
Dinasyddiaeth | Catuvellauni |
Galwedigaeth | arweinydd milwrol, llywodraethwr |
Swydd | penadur, legendary king of Britain |
Yn ôl Cesar yn ei lyfr Commentarii de Bello Gallico, pan ymosododd ar Brydain yn 54 CC, Cassivellaunus oedd arweinydd y Brythoniaid oedd yn ei wrthwynebu. Nid yw'n crybwyll i ba lwyth yr oedd yn perthyn, ond roedd ei diriogaethau, i'r gogledd o Afon Tafwys, yn cyfateb i diriogaethau y Catuvellauni yn ddiweddarach. Dywed Cesar ei fod wedi diorseddu brenin y Trinovantes, a bod mab y brenin hwnnw, Mandubracius, wedi ffoi i Gâl i ofyn am gymorth Rhufain. Ymladdwyd un o'r brwydrau hyn lle saif Brentford, Llundain heddiw.
Llwyddodd Cesar i groesi Afon Tafwys, ac ildiodd pum llwyth iddo, y Cenimagni, y Segontiaci, yr Ancalites, y Bibroci a'r Cassi. Datgelodd y rhain leoliad prif gaer Cassivellaunus, a roddwyd dan warchae gan Cesar. Ildiodd Cassivellaunus wedi i wrth-ymosodiad fethu, a chytunodd i ddychwelyd tiriogaeth y Trinovantes i Mandubracius.
Mae Cassivellaunus yn ymddangos yn Historia Regum Britanniae gan Sieffre o Fynwy fel Cassibelanus neu Cassibelaunus. Ef, yn ôl pob tebyg, yw sail hanesyddol y cymeriad Caswallon fab Beli ym Mhedair Cainc y Mabinogi a'r Trioedd Cymreig.