Castell Bryn Bras
castell rhestredig Gradd II* yn Llanrug
Ffug gastell ger Llanrug, Gwynedd, yw Castell Bryn Bras. Fe'i lleolir ychydig i'r de-ddwyrain o'r pentref yn ardal Arfon, Gwynedd. Mae'n adeilad rhestredig Gradd II*.
Math | castell |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Llanrug |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 142.1 metr |
Cyfesurynnau | 53.1404°N 4.17896°W |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II*, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Codwyd y castell ffug Gothig hwn rhwng 1829 a 1835 gan y pensaer Seisnig Thomas Hopper ar safle adeilad cynharach. Ar ôl cyfnod fel cartref teulol cafodd yr adeilad ei droi'n fflatiau gwyliau moethus.
Yma yn 1962, lawnsiwyd Rali'r Ddraig (The Dragon Rally), rali beiciau modur o gwmpas ffyrdd gogledd Cymru a ystyrir yn un o'r pennaf o'i fath.