Castell Candleston
maenordy wedi'i amddiffyn rhestredig Gradd II* ym Merthyr Mawr
Lleolir Castell Candleston ger pentref Merthyr Mawr ym mwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr, rhwng Pen-y-bont ar Ogwr a glannau Môr Hafren.
Math | castell, maenordy wedi'i amddiffyn, maenordy |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Merthyr Mawr |
Sir | Pen-y-bont ar Ogwr |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 22.9 metr, 23.4 metr |
Cyfesurynnau | 51.4829°N 3.62677°W |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II*, heneb gofrestredig, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | GM095 |
Er gwaethaf ei enw, maenordy castellog ydyw yn hytrach na chastell fel y cyfryw, a adeiladwyd ar ddiwedd y 14g. Cafodd ei adeiladwaith ei newid sawl gwaith rhwng y cyfnod hwnnw a dechrau'r 19eg ganrif pan roddwyd y gorau i'w ddefnyddio fel preswylfa. Mae llawer o dir yr hen faenor wedi cael ei lyncu gan dywod y tywynni mawr a geir yma.
Tybir fod yr enw "Candleston" yn llurguniad o'r enw "Cantilupeston", a bod y castell yn eiddo i'r teulu de Cantilupe Cambro-Normanaidd (gweler Walter de Cantilupe).
Ceir nifer o gestyll Normanaidd eraill yn yr ardal, yn cynnwys Castell Ogwr.
Dolen allanol
golygu- (Saesneg) Hanes a lluniau
Eginyn erthygl sydd uchod am fwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato