Castell Castell-nedd
castell a godwyd gan y Normaniaid
Castell a godwyd gan y Normaniaid yw Castell Castell-nedd, ac a roddodd ei enw i'r dref a dyfodd o'i gwmpas, sef Castell-nedd, tref sirol Castell-nedd Port Talbot yn ne Cymru.
Adfeilion Castell Castell-nedd. | |
Math | castell, safle archaeolegol |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Castell-nedd |
Sir | Castell-nedd Port Talbot |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 9.6 metr, 9.7 metr |
Cyfesurynnau | 51.6651°N 3.80348°W |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II*, heneb gofrestredig, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | GM039 |
Codwyd y castell gwreiddiol gan Robert, Iarll Caerloyw, yn y 12g. Mae ei hanes cynnar yn dywyll ond ei brif bwrpas oedd gwarchod ffin orllewinol Arglwyddiaeth Morgannwg.[1]
Ymosodwyd ar y castell gan arglwyddi Cymreig Morgannwg ar ddiwedd y flwyddyn 1183.[2]
Yn y flwyddyn 1231 arweiniodd y Tywysog Llywelyn Fawr ymgyrch mawr yn ne Cymru. Llosgwyd y castell a'r dref gan ei fyddin.[3] Ailadeiladwyd y castell ar ôl hynny ond fe'i dinistrwyd eto ar ddechrau'r 14g fel rhan o wrthryfel lleol yn erbyn Hugh Despenser, Arglwydd Morgannwg.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 CastleWales.com
- ↑ R. R. Davies, The Age of Conquest: Wales 1063-1415 (Gwasg Prifysgol Rhydychen, 1991), tud. 273.
- ↑ John Davies, Hanes Cymru (Penguin, 1992), tud. 133.