Castell Cawdor
Lleolir Castell Cawdor ger Nairn yn yr Alban. Fe'i adeiladwyd gan William y Llew ym 1179.[1] Mae'r castell gwreiddiol wedi diflannu'n llwyr, ac fe adeiladwyd un newydd gan Bendefigion Cawdor ar safle arall yn ystod y 14g. Mae'r castell yn gartref o hyd i'r teulu Cawdor. Mae'r tŷ, y gerddi a'r coedwigoedd ar agor i'r cyhoedd, ac mae cwrs golff 9 twll yno hefyd.
![]() | |
Math | castell ![]() |
---|---|
Cysylltir gyda | designed landscape at Cawdor Castle ![]() |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Cyngor yr Ucheldir ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 57.524258°N 3.926612°W ![]() |
Cod OS | NH8471849870 ![]() |
![]() | |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig categori A ![]() |
Manylion | |
Er bod Cawdor yn enwog oherwydd y ddrama Macbeth gan William Shakespeare, ac - yn ôl y ddrama - lladdwyd y Brenin Duncan yn y castell,[2], mae’r ddrama’n seiliedig ar digwyddiadau yn ystod yr 11g, cyn adeiladwyd y castell.[3]
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/4/49/Cawdor03LB.jpg/260px-Cawdor03LB.jpg)
Gerddi’r castell
golyguDechreuwyd yr ardd gyntaf tua 1600. Gosodwyd gardd blodau tua 100 blynedd yn ddiweddarach. Plannwyd yr ardd gwyllt yn y 1960au, rhwng y castell a Nant Cawdor. Mae 2 ardd arall, ger Plas Achindoune, tŷ haf yr Arglwyddes Cawdor gerllaw.[4]
Cyfeiriadau
golyguDolen allanol
golygu