Castell Mawr, Eglwyswrw

Bryngaer yn Sir Benfro yw Castell Mawr. Fe'i lleolir ger Eglwyswrw. Mae'n un o sawl Castell Mawr yng Nghymru. Mae'n debyg ei bod yn dyddio o gyfnod Oes yr Haearn.

Castell Mawr o'r awyr

Disgrifiad golygu

Caer fach o ffurf gron yw Castell Mawr. Mae'n enghraifft o'r dosbarth o fryngaerau llai y credir eu bod yn amddiffynfeydd teuluol. Mae siap y gaer yn debyg i ddosbarth tebyg o fryngaerau yn Iwerddon; roedd cysylltiad agos rhwng Dyfed ac Iwerddon yng nghyfnod y Celtiaid.

Cefndir golygu

Fel arfer, fel mae'r gair yn ei awgrymu, ar fryn y codwyd y caerau hyn, er mwyn i'r amddiffynwyr gael mantais milwrol. Un o'r bryngaerau mwyaf trawiadol yng Nghymru ydy Tre'r Ceiri, a hon yw'r fryngaer Oes Haearn fwyaf yng ngogledd-orllewin Ewrop.[1] Mae ei harwynebedd oddeutu 2.5ha.[2] Y mwyaf o ran maint (arwynebedd), fodd bynnag ydy Bryngaer Llanymynech sydd ag arwynebedd o 57 hectar.[3]

Lloches i gartrefi a gwersyllfeydd milwrol oedd eu pwrpas felly, cyn y goresgyniad Rhufeinig; a chafodd cryn lawer ohonyn nhw eu hatgyfnerthu a'u defnyddio, yng nghyfnod y Rhufeiniaid; er enghraifft Dinorben yng ngogledd Cymru. Oes aur bryngaerau gwledydd Prydain oedd rhwng 200 CC ac OC 43.

Cyfeiriadau golygu

  1. References Wales gan John May; Gwasg Prifysgol Cymru.
  2. "Gwefan y BBC". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-04-11. Cyrchwyd 2013-12-10.
  3. "Gwefan CPAT". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-01-07. Cyrchwyd 2013-12-10.