Castell Pen-rhys
Lleolir Castell Pen-rhys ym Mhen-rhys ar Benrhyn Gŵyr. Priodolir y castell canoloesol i Robert de Penrice, a fu farw ym 1283.[1] Roedd y castell ym meddiant y teulu Mansel erbyn y 15g.[2] Yn hwyr yn yr oesoedd canol symudodd y teulu i Gastell Oxwich gan roi'r gorau i Ben-rhys, ac aeth yr adeilad yn sarn.[3] Yn nyddiau hwyr preswyliaeth y teulu adeiladwyd colomendy, sydd bellach yn adeilad rhestredig Gradd II*.[4] Difrodwyd y castell yn bellach gan Oliver Cromwell yn y Rhyfel Cartref, ac efallai eto yn y 18g er mwyn creu effaith pictiwrésg.[3]
Math | castell, adfeilion castell |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Pen-rhys |
Sir | Sir Abertawe |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 60.2 metr |
Cyfesurynnau | 51.5752°N 4.17078°W |
Perchnogaeth | teulu Mansel |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II*, heneb gofrestredig, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | GM047 |
Adeiladwyd plasty Sioraidd islaw yr adfeilion canolesol ar gyfer Thomas Mansel Talbot ym 1773–7; Anthony Keck oedd y pensaer. Prynwyd dau o'r mentyll tân gan Talbot yn ystod ei deithiau yn yr Eidal. Cynlluniwyd y parc gan William Emes ym 1776.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Newman, John (1995). Glamorgan, The Buildings of Wales. Llundain: Penguin, tud. 508–9
- ↑ (Saesneg) Thomas, Jeffrey L. Penrice Castle. Castles of Wales. Adalwyd ar 6 Gorffennaf 2015.
- ↑ 3.0 3.1 (Saesneg) Penrice Castle (Ruins). British Listed Buildings. Adalwyd ar 6 Gorffennaf 2015.
- ↑ (Saesneg) Penrice Castle Dovecote. British Listed Buildings. Adalwyd ar 6 Gorffennaf 2015.