Awdures doreithiog ac yn addysgwraig ac awdurdod ar agweddau o draddodiadau a hanes Cymru yw Catrin Stevens.

Catrin Stevens
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethhanesydd, llenor, golygydd Edit this on Wikidata

Ganwyd yn Llanon, Ceredigion, ac addysgwyd hi yn Ysgol Ramadeg Ardwyn a Phrifysgol Bangor. Wedi gweithio fel athrawes Cymraeg a hanes, roedd Catrin hefyd yn bennaeth adran hanes a hanes Cymru yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin. Mae ei llyfrau am arferion caru Cymreig yn deillio o ymchwil Catrin i hen arferion Cymru yn Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan. Mae Catrin bellach yn gweithio fel awdur llawrydd a'i phrif ddiddordeb yw dehongli hanes i ddarllenwyr o bob oed.[1]

Cyhoeddodd cyfrolau yn y gyfres i blant, Hanes Atgas ynghyd â’r gyfrol Saesneg Inside Out: Telling the Story of Welsh.

Mae'n aelod gweithgar o Ferched y Wawr ac yn gyn olygydd cylchgrawn Y Wawr.[2]

Mae’n briod a chanddi ddau o blant ac mae’n byw yng Nghasllwchwr ger Abertawe.

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Catrin Stevens - Authors". www.gomer.co.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-05-08. Cyrchwyd 2020-01-10.
  2. "www.gwales.com - 9781784617660, Hanes Menywod Cymru 1920-60 - yn eu Geiriau eu Hunain". www.gwales.com. Cyrchwyd 2020-01-10.
  Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur o Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.