Catrin ferch Gruffudd ab Ieuan Fychan

bardd

Mae'n debyg fod Catrin yn ferch i'r bardd Gruffudd ab Ieuan ap Llywelyn Fychan (bl. 16g), ac un gerdd yn unig ganddi a gadwyd, sef awdl i Dduw ac i'r byd – yn Ll.G.C. MS. 722 (155). Mae'n bosib mai eiddo ei chwaer, Alis Wen, ydi'r cywydd a gadwyd yn Cardiff MS. 19(742), Cwrtmawr MS. 14(72), ac Ll.G.C. MS. 6681 (404).

Catrin ferch Gruffudd ab Ieuan Fychan
Enghraifft o'r canlynolbod dynol Edit this on Wikidata

Roedd ei thad yn byw ym mhlas Lleweni Fechan, ger Llanelwy a chredir iddi hithau fyw yno hefyd.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. T. Gwynn Jones (gol.), Gwaith Tudur Aled, cyfrol 2, nodyn.