Catti Tŷ Maen, Nel Cwm Rheibo a Bess Bryntroedcarn

grwp o wrachod o Gwm Afan

Gwrachod chwedlonol oedd Catti Tŷ Maen, Nel Cwm Rheibo a Bess Bryntroedcarn, mae'n debyg, ac roeddent yn byw yng Nghwm Afan.

Catti Tŷ Maen, Nel Cwm Rheibo a Bess Bryntroedcarn
Man preswylCwm Afan Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru

Yn ôl y chwedlau roedd Catti Tŷ Maen, Nel Cwm Rheibo a Bess Bryntroedcarn yn wrachod yng Nghwm Afan oedd â’r gallu i reibio.

Roedd Bess Bryntroedcarn yn wraig i ffermwr yn yr ardal. Byddai hi’n treulio eu diwrnodau yn crwydro’r fferm yn rhith sgwarnog i weld â oedd y gweithwyr wrth eu gwaith.

Gyda’r hwyr byddai hi’n gofyn i’r gweithwyr a oeddent wedi gweld sgwarnog yn ystod y dydd, a pham nad oeddent wedi bod yn gweithio’n galed. Roedd pobl yr ardal yn ei hadnabod hi fel ‘Bess y Wrach’.

Cyfeiriadau

golygu