Cecil Wilfrid Luscombe Bevan
Fferyllydd ac academydd o Gymru oedd Cecil Wilfrid Luscombe "Bill" Bevan, CBE (2 Ebrill 1920 – 19 Ebrill 1989). Bu'n Brifathro Coleg y Brifysgol, Caerdydd o 1966 hyd 1987. Bu hefyd yn Is-Ganghellor Prifysgol Cymru am ddau dymor: 1973 i 1975 a 1981 i 1983.[1]
Cecil Wilfrid Luscombe Bevan | |
---|---|
Ganwyd | 2 Ebrill 1920 |
Bu farw | 19 Ebrill 1989 |
Galwedigaeth | academydd, cemegydd |
Cyflogwr | |
Gwobr/au | CBE |
Gyrfa academaidd
golyguBu Bevan yn gweithio ym Mhrifysgol Caerwysg rhwng 1949 a 1953, cyn symud i Brifysgol Ibadan yn Nigeria. Bu'n bennaeth ei Hadran Cemeg o 1953 a 1966, a'i Is-bennaeth a'i Ddirprwy Is-Ganghellor o 1960 hyd 1964.[1]
Gwobrau ac anrhydeddau
golyguYn Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd ym 1965, penodwyd Bevan yn Gadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (CBE). Fe'i gwnaed yn swyddog o'r Ordre des Palmes Académiques gan lywodraeth Ffrainc yn 1986.[1]
Ym 1969, gwnaed Bevan yn Gymrawd o Goleg Prifysgol Llundain (UCL);[1] mae hwn yn benodiad anrhydeddus sy'n cydnabod "rhagoriaeth yn y celfyddydau, llenyddiaeth, gwyddoniaeth, busnes neu fywyd cyhoeddus".[2] Dyfarnwyd gradd Doethur mewn Gwyddoniaeth (DSc) er anrhydedd iddo ym 1973 gan Brifysgol Ibadan.[1] Yn 1982, fe'i gwnaed yn Gymrawd er Anrhydedd o Goleg y Brifysgol, Caerdydd.[1]
Gweithiau dethol
golygu- Cecil Wilfred Luscombe Bevan (1965). Intermediate Practical Chemistry. Nelson.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 'BEVAN, Cecil Wilfrid Luscombe', Who Was Who, A & C Black, an imprint of Bloomsbury Publishing plc, 1920–2016; online edn, Oxford University Press, 2014; online edn, April 2014 accessed 31 Aug 2017
- ↑ "Honorary Fellows of UCL". Student and Registry Services. University College London. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-11-20. Cyrchwyd 31 August 2017.