Mae ceiliogod y gwair (neu geiliogod y rhedyn) yn fath o drychfilyn, yn rhan o’r isurdd Caelifera, yn grwp hynafol o drychfilod sy wedi esblygu tua 250 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Maent yn fyw’n arferol ar y ddaear, ac mae ganddynt coesau cryfion, sy’n caniatáu ffoi rhag bygythiadau. Maent yn deor o wyau i fod yn nymff ac yn mynd trwy broses graddol i fod yn oedolyn.[1]

Ceiliog y gwair ym Mhennsylvania

Maent yn clywed trwy’r tympanwm, yn rhan cyntaf eu habdomen. Mae ganddynt llygaid cyfansawdd. Mae gan rai o’u rhywogaethau’r gallu i newid lliw ac yn ffurfio heidio; locwstiaid ydynt.

Maent yn bwyta planhigion, ac fel locwstiaid, wedi bod yn broblem ddifrifol ers yr oesau beiblaidd.[2] Maent yn fwyd i bobl Mexico ac Indonesia, ac yn ymddangos yn llenyddiaeth, y celfydyddau ac fel symbolau. Acridoleg yw enw astudiaeth Ceiliog y Gwair.

Cyfeiriadau

golygu